Y Corff Llywodraethu, Hunanwerthuso a Chynllunio ar gyfer gwella
Mae arweinwyr yn gweithio’n agos gyda’r corff llywodraethu i ddatblygu partneriaeth gref a phroffesiynol. Mae’r corff llywodraethu yn hynod effeithiol ac yn dangos dealltwriaeth ddofn o gryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w datblygu. Trwy gymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau monitro, gan gynnwys teithiau dysgu a chyfarfodydd â disgyblion, mae llywodraethwyr yn casglu tystiolaeth uniongyrchol am gwricwlwm yr ysgol a chynnydd disgyblion ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrannu at brosesau hunanwerthuso’r ysgol. Mae’r wybodaeth hon yn helpu llywodraethwyr i gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau’n effeithiol a datblygu deialog ystyrlon i ddarparu cymorth a her i arweinwyr.