Creu amgylchedd dysgu sy’n ysbrydoli annibyniaeth a chwilfrydedd ymhlith y disgyblion ieuengaf
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ieuengaf yr ysgol yn hynod effeithiol. Mae staff yn addasu’r amgylchedd dysgu yn dda i adlewyrchu diddordebau’r disgyblion ac ysgogi eu chwilfrydedd. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos brwdfrydedd sylweddol dros ddysgu ac yn ymgysylltu’n hyderus â phrofiadau newydd. Mae staff yn defnyddio eu harsylwadau gofalus o chwarae’r disgyblion i ymyrryd ar adegau priodol er mwyn cefnogi ac ymestyn eu dysgu’n effeithiol. Er enghraifft, maent yn gofyn cwestiynau i ennyn diddordeb y disgyblion ac yn cynnig dewisiadau sy’n eu hannog i roi cynnig ar eu syniadau ac i ddatrys problemau’n annibynnol. O ganlyniad, mae llawer o’r disgyblion ieuengaf yn chwilio am ffyrdd creadigol o gyflawni nod ac yn dyfalbarhau pan fydd tasgau’n eu herio.