Cryfhau medrau llafaredd trwy fodelu pwrpasol a chyfleoedd cyfoethog i siarad.
Mae staff yn cynllunio ystod eang o brofiadau dysgu diddorol sy’n hyrwyddo ac yn datblygu medrau siarad a gwrando allweddol yn effeithiol. Mae bron pob oedolyn yn defnyddio cwestiynu’n dda ac yn modelu iaith o ansawdd uchel yn gyson, gan gefnogi disgyblion i fynegi eu syniadau’n glir ar draws y cwricwlwm. Mae cyfleoedd sydd wedi’u strwythuro’n ofalus, fel drama a chwarae rôl, yn galluogi disgyblion i ymarfer a mireinio eu medrau llafaredd mewn cyd-destunau diddorol. Mae medrau llafaredd disgyblion yn gryfder nodedig yn yr ysgol, gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynegi eu syniadau’n ystyriol ac yn ymateb yn sensitif i eraill.