Cysylltiadau cryf â rhieni
Mae’r ysgol yn datblygu cysylltiadau cryf â rhieni a gofalwyr. Mae’n trefnu ystod eang o ddigwyddiadau ymgysylltu sy’n cefnogi gwybodaeth a dealltwriaeth rhieni o waith yr ysgol. Er enghraifft, mae’r digwyddiadau ‘Dathlu Dysgu’ yn galluogi rhieni i gael profiad o weithgareddau dysgu yn ystod y diwrnod ysgol. Mae arweinwyr yn gofyn am farn rhieni yn rheolaidd trwy holiaduron a fforwm rhieni. Maent yn gwneud newidiadau yn dilyn adborth, er enghraifft i addasu gweithgareddau dysgu gartref. Mae’r cysylltiadau â rhieni disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn arbennig o effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau galw heibio i rieni, lle gallant gael cymorth a chyngor buddiol.