Ysgol Heol Goffa - Estyn
Ysgolion arbennig a gynhelir - Cyngor Sir Gâr

Ysgol Heol Goffa

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 4

Cipluniau

Profiadau cyfoethog yn y byd go iawn a phrofiadau corfforol sy’n meithrin annibyniaeth, hyder a gwydnwch

Un o gryfderau penodol yr ysgol yw’r ddarpariaeth ar gyfer dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth a chynnig profiadau bywyd go iawn i ddisgyblion sy’n cefnogi datblygiad medrau bywyd allweddol. Mae disgyblion yn cael ystod eang o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol ar safle’r ysgol ac oddi arno, gan gynnwys defnyddio trampolîn at ddibenion therapiwtig, beicio, cerdded, pêl-droed, boccia a chanŵio. O ganlyniad, mae medrau corfforol disgyblion yn datblygu’n briodol. Mae disgyblion hŷn yn dangos medrau corfforol effeithiol iawn, yn ogystal â gwydnwch a dewrder, er enghraifft wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau Gwobr Dug Caeredin ar lefelau efydd, arian ac aur. Yn ogystal, mae disgyblion yn adeiladu ar y medrau corfforol hyn trwy ystod o brofiadau hynod werthfawr sy’n cyfoethogi’r cwricwlwm, er enghraifft trwy deithiau sgïo yn lleol a thramor. Mewn ychydig iawn o achosion, mae disgyblion yn arddangos y medrau hyn trwy gynrychioli Cymru yng Ngemau Olympaidd Arbennig.

Manylion

Cyfeiriad

Heol Goffa
Llanelli
Carmarthenshire
SA15 3LS