Ymrwymiad ysgol gyfan sy’n galluogi disgyblion i ffynnu
Mae’r ysgol yn lle gofalgar a meithringar lle mae disgyblion yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel. Mae lles disgyblion yn cael ei hyrwyddo’n weithredol a’i flaenoriaethu trwy ystod o ddulliau ysgol gyfan. Mae hyn yn meithrin ethos gofalgar sy’n cefnogi anghenion emosiynol a chymdeithasol disgyblion yn dda. O ganlyniad, mae bron pob disgybl yn ymddwyn yn dda yn yr ystafelloedd dosbarth, yn ystod amseroedd egwyl ac wrth symud o amgylch yr ysgol.