Hendredenny Park Primary School - Estyn
Cynradd - Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Hendredenny Park Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Defnydd rheolaidd disgyblion o fedrau digidol

Ar draws yr ysgol, mae staff yn cynllunio’n effeithiol i ddisgyblion ddefnyddio dyfeisiau digidol i gefnogi eu dysgu. Er enghraifft, mae disgyblion iau yn defnyddio teganau rhaglenadwy i greu llwybr i Fethlehem ac yn cadw eu gwaith yn rheolaidd mewn portffolio ar-lein. Mae disgyblion hŷn yn defnyddio codio i gyfleu eu dysgu i eraill, er enghraifft wrth greu animeiddiad i ddangos y gylchred ddŵr. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu medrau digidol cryf ac yn eu defnyddio’n bwrpasol mewn ystod o gyd-destunau.

Manylion

Cyfeiriad

Groeswen Drive
Hendredenny Estate
Caerphilly
CF83 2BL