Meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd i gefnogi lles.
Mae’r pennaeth yn rhoi pwys mawr ar staff yn cyfathrebu ac yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr fel partneriaid yn addysg eu plant. Maent wedi sefydlu rhaglen o weithgareddau y mae disgyblion a rhieni yn eu mwynhau gyda’i gilydd. Er enghraifft, mae dosbarthiadau ‘Aros a Chwarae’ a sesiynau ‘Prynhawn Crefft’ yn darparu cyfleoedd i rieni a gofalwyr weithio ochr yn ochr â’u plant, gan helpu i feithrin perthnasoedd cryf rhwng yr ysgol a’r gymuned ehangach. Mae nifer dda yn mynychu’r sesiynau hyn, ac mae bron pob rhiant yn teimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan mewn profiadau cymdeithasol a dysgu ac yn teimlo bod staff yr ysgol yn eu gwerthfawrogi.