Gwenfo C.I.W. Primary - Estyn
Cynradd - Cyngor Bro Morgannwg

Gwenfo C.I.W. Primary

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Gweithio mewn partneriaeth ac â’r gymuned

Mae arweinwyr yn datblygu partneriaethau llwyddiannus sydd o fudd i’r ysgol, y disgyblion a’r gymuned ehangach. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn profiadau dysgu pwrpasol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn sy’n cysylltu â’r gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiad blynyddol ‘Gerddi Agored Gwenfô’, sef dathliad cymunedol ar y cyd pan fydd trigolion a’r ysgol yn agor eu gerddi i’r cyhoedd eu gweld. Mae disgyblion hŷn yn defnyddio’r rhandir lleol i gefnogi eu dysgu am fwyta’n iach a llysiau tymhorol, ac maent yn ymestyn y dysgu hwn wrth ymweld â’r fferm leol i ddysgu am gynnyrch fel rhan o’u thema ‘O’r Fferm i’r Fforc’. Mae cysylltiadau buddiol â’r clwb tennis lawnt lleol sy’n galluogi teuluoedd i fwynhau chwaraeon y tu allan i’r diwrnod ysgol. Mae’r partneriaethau hyn yn cyfoethogi cwricwlwm yr ysgol ac yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o bwysigrwydd cymuned a pherthyn.

Manylion

Cyfeiriad

Old Port Road
Wenvoe
Cardiff
Vale of Glamorgan
CF5 6AN