Datblygu medrau Cymraeg ac ieithoedd rhyngwladol disgyblion
Mae disgyblion yn elwa ar gyfleoedd i ddatblygu eu medrau Cymraeg a Sbaeneg. Mae athrawon yn fodelau iaith cryf ac yn defnyddio dulliau arloesol i ddatblygu geirfa disgyblion, ac mae disgyblion yn caffael yr ieithoedd yn gyflym. Maent yn datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu ieithoedd newydd ac yn gwneud cynnydd cryf wrth ddatblygu eu medrau yn y ddwy iaith.