Gors Community Primary School - Estyn
Cynradd - Dinas a Sir Abertawe

Gors Community Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Ysgol wrth wraidd ei chymuned

Mae’r ysgol yn gweithio’n galed i gryfhau ei rôl yn y gymuned trwy gynnig ystod o fentrau i gefnogi teuluoedd a’u hannog i gymryd rhan. Mae’n cynnal gweithdai, fel sesiynau mathemateg a darllen, i roi arweiniad i rieni ar sut i gefnogi eu plant. Mae arweinwyr yn cynnal boreau coffi sy’n rhoi cyngor i rieni a mynediad at ystod o asiantaethau allanol, yn ogystal â sefydlu rhwydwaith cymorth cydfuddiannol. Mae’r ysgol wedi cyflwyno Pantri Pawb, sef banc bwyd, ynghyd ag apêl am hamperi Nadolig a theganau ar gyfer teuluoedd mewn angen. Mae wedi trawsnewid ei hystafelloedd cymunedol yn gaffi, llyfrgell a chanolfan adnoddau, lle gall rhieni gael bwyd, dillad a deunyddiau dysgu. Trwy’r ymdrechion hyn, ynghyd ag uchelgais i gryfhau’r ddarpariaeth hon ymhellach, mae’r ysgol yn dod yn ganolfan hanfodol i’r gymuned, gan gynnig cymorth ymarferol a meithrin ymdeimlad o berthyn ymhlith pawb.

Manylion

Cyfeiriad

Step Ahead Education Centre
Gors Avenue
Cockett
Swansea
SA1 6SF