Datblygu medrau eang yn yr amgylchedd awyr agored
Mae disgyblion a staff wedi cydweithio’n agos i gynllunio a datblygu amgylchedd awyr agored ysgogol a deniadol yr ysgol. Mae disgyblion yn datblygu medrau corfforol gwerthfawr wrth iddynt ddringo, palu a chwilota yn ardaloedd y goedwig a’r ardd, wrth gymryd rhan mewn ystod eang o brofiadau dysgu cyfoethog sy’n cefnogi datblygiad eu medrau llythrennedd, rhifedd a chreadigol yn effeithiol. Mae disgyblion yn frwdfrydig am y cyfleoedd dysgu awyr agored a gânt ac yn gwerthfawrogi’r effaith gadarnhaol y mae’r ardaloedd yn ei chael ar eu lles ysbrydol a meddyliol pan fydd angen amser tawel arnynt i fyfyrio.