Datblygu cwricwlwm cyfoethog a hynod ddiddorol sy’n annog disgyblion i gymhwyso eu medrau ar draws meysydd y cwricwlwm
Mae dull ysgol gyfan o ddatblygu’r cwricwlwm yn eithriadol ac yn darparu cyfleoedd cyfoethog a hynod ddiddorol i ddisgyblion gymryd rhan mewn profiadau dysgu ystyrlon a dilys. Mae’r profiadau hyn yn adeiladu’n llwyddiannus ar fedrau disgyblion dros amser ac yn eu galluogi i drosglwyddo eu medrau’n naturiol o un maes o’r cwricwlwm i’r llall.