Meithrin cydweithio trwy weithgareddau entrepreneuraidd
Ar draws yr ysgol, mae athrawon yn gwneud defnydd arbennig o fuddiol o weithgareddau entrepreneuraidd i feithrin cydweithio rhwng grwpiau o ddisgyblion. Mae’r cyfleoedd hyn yn galluogi disgyblion i fanteisio ar syniadau ei gilydd a defnyddio eu gwybodaeth a’u medrau i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o oresgyn problemau. Mae disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol i’r her a gynigir gan y gweithgareddau hyn, gan ddyfalbarhau i wneud cynnydd a theimlo balchder a boddhad wrth gyflawni nod cyffredin.