Cyngor Sir Caerfyrddin/Carmarthenshire County Council - Estyn
Darpariaeth trochi yn y Gymraeg - Cyngor Sir Gâr

Cyngor Sir Caerfyrddin/Carmarthenshire County Council

Estyn logo on a blue background

Arolygiadau

Arolygiad/ymweliad nesaf Dim manylion ar gael
Dyddiad cyhoeddi'r adroddiad nesaf Dim manylion ar gael

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Ciplun: Cyfoethogi'r ddarpariaeth drochi drwy ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn ystyrlon

Mae staff yn defnyddio fframwaith patrymau iaith craidd fel sail i'r ddarpariaeth drochi ac yn cynllunio cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion gymhwyso'r patrymau mewn cyd-destunau bywyd go iawn.Maent yn cydweithio â phartneriaid lleol i greu profiadau dilys sy'n rhoi pwrpas clir i ddefnyddio'r Gymraeg. Er enghraifft, mae disgyblion yn ymweld â'r ardal natur yn yr ysgol uwchradd i weld y geifr cyn cynllunio posteri a chreu hysbysebion digidol i'w gwerthu. Yn ogystal, mae ymweliadau â'r gymuned a busnesau lleol yn rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio'r Gymraeg yn annibynnol, er enghraifft wrth archebu mewn caffi.O ganlyniad, mae disgyblion yn gweld gwerth y Gymraeg fel iaith gyfathrebu bob dydd. Maent yn datblygu hyder cynyddol i ddefnyddio'r patrymau iaith mewn sefyllfaoedd newydd ac yn trosglwyddo eu dysgu yn fwy effeithiol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Manylion

Cyfeiriad

County Hall
Carmarthen
Carmarthenshire
SA31 1JP