Datblygu medrau Cymraeg staff a disgyblion mewn ysgolion Saesneg
Mae arweinwyr yn trefnu cyfleoedd gwerthfawr i gefnogi dysgu proffesiynol ar draws yr awdurdod drwy ddarparu hyfforddiant caffael iaith effeithiol. Yn ddiweddar, maent yn hyrwyddo datblygiad medrau'r Gymraeg staff a disgyblion rhai o’r ysgolion Saesneg lleol yn llwyddiannus. Mae staff y ganolfan yn teilwra cefnogaeth fwriadus i ddiwallu anghenion yr ysgolion yn unigol ac yn cydweithio i ddarparu gweithgareddau ysgogol i gefnogi datblygiad medrau’r disgyblion ar draws y cwricwlwm. O ganlyniad, mae hyder y staff i addysgu’r Gymraeg wedi cynyddu sydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar fedrau’r disgyblion. Yn ogystal, mae hwn wedi arwain at dwf yn niferoedd y disgyblion sy’n trosglwyddo i addysg Gymraeg uwchradd yn flynyddol. Bellach, mae hwn yn sylweddol uwch na’r targed a osodwyd gan yr awdurdod yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA).