Monitro cynnydd disgyblion yn bwrpasol ac mewn ffordd gefnogol
Mae dull yr ysgol o werthuso a monitro cynnydd disgyblion yn systematig, yn bwrpasol ac yn ymateb i anghenion unigolion. Mae arweinwyr wedi sefydlu prosesau asesu clir sy’n helpu i nodi pa mor dda y mae disgyblion yn dysgu dros amser. Mae athrawon yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys tasgau a gynlluniwyd gan yr ysgol, arsylwadau yn yr ystafell ddosbarth ac asesiadau mwy ffurfiol. Maent yn ategu hyn drwy gynnal trafodaethau strwythuredig â phob disgybl i helpu i greu darlun cyflawn o’u datblygiad. Mae’r ystyriaeth fanwl hon o gynnydd disgyblion yn galluogi athrawon ac arweinwyr i gadw golwg fanwl ar gynnydd unigolion ac i nodi’n gyflym ble y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar ddisgyblion.