Cwmlai Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdestref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cwmlai Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Effaith grwpiau llais y disgybl ar ddatblygu medrau arwain disgyblion a’r effaith gadarnhaol a gânt ar eu hysgol a’r gymuned ehangach

Mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i ddylanwadu ar fywyd yr ysgol trwy ystod eang o grwpiau llais y disgybl a’r Senedd. Trwy’r rhain, maent yn datblygu dealltwriaeth o’u hawliau a’r effaith gadarnhaol y gallant ei chael ar eu hysgol a’r gymuned ehangach. Mae disgyblion yn cymryd cyfrifoldeb am redeg y grwpiau hyn yn effeithiol, ac mae hyn yn eu helpu i ddatblygu eu medrau arwain yn dda. O Flwyddyn 2 ymlaen, mae pob disgybl yn cymryd rhan mewn grŵp llais y disgybl, lle maent yn cymryd cyfrifoldeb am arwain ar feysydd gwella pwysig yn yr ysgol. Er enghraifft, yn ddiweddar, gwnaeth y clwb Eco wella’r amgylchedd dysgu ar gyfer pob disgybl trwy ddatblygu gardd eco ar dir yr ysgol. Yma, mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i archwilio rhyfeddodau byd natur a deall yn well sut i ofalu am y blaned.

Manylion

Cyfeiriad

Penygarreg Road
Tonyrefail
Porth
RCT
CF39 8AS