Hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, amrywiaeth a rhinweddau parch ac empathi
Mae arweinwyr wedi rhoi addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) wrth wraidd sail resymegol cwricwlwm yr ysgol. Gwnaethant nodi cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol, a chydweithiodd staff i ystyried sut i gynnal sgyrsiau a gweithgareddau dysgu gyda disgyblion o wahanol oedrannau ynghylch amrywiaeth, hunaniaeth a materion LHDTQ+. Mae’r tîm addysgu a’r rhan fwyaf o ddisgyblion bellach yn trafod y materion hyn yn hyderus, yn sensitif ac yn ddeallus. Mae ethos cynhwysol cryf yr ysgol yn sail i’r gwaith hwn ac yn paratoi disgyblion i fyw a gweithio mewn amgylcheddau amrywiol.