Colcot Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bro Morgannwg

Colcot Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Gweithio mewn partneriaeth a chefnogi anghenion teuluoedd

Mae arweinwyr yn adnabod eu disgyblion a’u teuluoedd yn dda ac yn defnyddio’r ddealltwriaeth hon i ddarparu cymorth effeithiol. Maent yn hyrwyddo ymgysylltiad cryf â theuluoedd trwy weithgareddau pwrpasol sy’n helpu i feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae uwch arweinwyr yn cynnal gweithdai buddiol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd rhieni a gofalwyr. Mae’r rhain yn helpu i fagu eu hyder i gefnogi dysgu eu plentyn gartref. Mae arweinwyr yn gweithio’n arbennig o dda gyda gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i rieni disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn ystod y diwrnod ysgol a thu hwnt. Mae’r ysgol yn trefnu hyfforddiant sy’n seiliedig ar fedrau a phrofiad gwaith i rieni ac yn eu helpu i ennill cymwysterau er mwyn cynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn meithrin cysylltiadau pwysig â sefydliadau a busnesau er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn gallu manteisio ar gymorth lles ac emosiynol. Mae gweithio mewn partneriaeth yn un o gryfderau’r ysgol.

Manylion

Cyfeiriad

Florence Avenue
Barry
CF62 9XH