Darpariaeth ar gyfer anghenion emosiynol disgyblion
Agwedd gadarnhaol iawn ar waith yr ysgol yw ei darpariaeth ar gyfer llythrennedd emosiynol. Mae aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant trylwyr yn monitro lles disgyblion ar draws yr ysgol ac yn darparu cymorth ymatebol o ansawdd uchel pan fo angen. Mae sesiynau sydd wedi’u cynllunio’n ofalus ac, ar adegau, sesiynau digymell yn diwallu anghenion unigol disgyblion yn effeithiol. Mae’r cymorth wedi’i dargedu hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar hyder a hunan-barch disgyblion unigol. Mae staff yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid grant ychwanegol er mwyn darparu cyfleoedd ac adnoddau ychwanegol i wella lles disgyblion sy’n agored i niwed. Maent yn datblygu amgylchedd yr ysgol i ddarparu mannau diogel a thawel fel bod gan ddisgyblion le ac amser i reoli eu hemosiynau a bod yn barod i ddysgu.