Y 'Rhaglen Dyfodol'
Mae’r ‘Rhaglen Dyfodol’, sy’n cynnwys arweiniad yn ymwneud â gyrfaoedd a llwybrau’r dyfodol, wedi’i sefydlu’n gadarn ac mae’n rhan annatod o ddarpariaeth yr ysgol drwy gydol yr ysgol hŷn. Mae’r holl staff addysgu’n cyfrannu at ei chyflwyno a’i datblygu, ac mae’r rhaglen wedi’i seilio ar ethos yr ysgol o ddarparu gofal personol i ddisgyblion. O ganlyniad, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth ddatblygedig o fyd gwaith, yn ogystal â’r ystod eang o gyfleoedd a llwybrau sydd ar gael iddynt ar ôl gadael yr ysgol. Mae gwaith hynod effeithiol yr ysgol i gefnogi ceisiadau i brifysgolion yn golygu bod cyfran uchel o ddisgyblion Blwyddyn 13 yn symud ymlaen i’w cyrchfan ddewisol, er enghraifft astudio mewn prifysgol, dilyn prentisiaeth neu fynd i gyflogaeth