Diwylliant o ofal a pherthyn
Mae ethos cefnogol yr ysgol wedi’i wreiddio mewn urddas a pharch, ac mae hyn yn amlwg yn ansawdd y perthnasoedd ar draws cymuned yr ysgol. Mae staff a disgyblion yn modelu gwerthoedd yr ysgol yn eu rhyngweithio dyddiol, gan greu diwylliant cynhwysol lle mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo bod pobl yn eu hadnabod, yn eu gwerthfawrogi ac yn gwrando arnynt. Adlewyrchir yr ymdeimlad cryf hwn o berthyn yn ymddygiad cadarnhaol disgyblion, eu hymwneud cwrtais ag ymwelwyr a’u parodrwydd i gyfrannu at fywyd yr ysgol. Mae’r ysgol yn rhoi lles disgyblion wrth wraidd ei gwaith. Mae dulliau adferol, systemau gofal bugeiliol cynhwysol a chymorth wedi’i dargedu yn helpu disgyblion i deimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi. Mae hyrwyddo amrywiaeth trwy brofiadau cwricwlaidd a mentrau arwain disgyblion yn cryfhau dealltwriaeth disgyblion o barch a chyfrifoldeb cymdeithasol ymhellach. O ganlyniad, mae’r amgylchedd gofalgar hwn wedi’i wreiddio’n ddwfn ac mae’n gryfder nodedig yn yr ysgol.