‘Dyfodol’
Mae darpariaeth ‘Dyfodol’ yn creu amgylchedd diogel a gofalgar ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 sy’n ei chael yn anodd manteisio ar addysg brif ffrwd. Mae disgyblion yn cael cwricwlwm personol sydd wedi’i deilwra’n ofalus i’w hanghenion cymdeithasol, emosiynol ac addysgol. Mae hyn nid yn unig yn helpu i feithrin eu hyder a’u hunan-barch, ond hefyd yn eu helpu i ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd fel y gallant gael eu hintegreiddio fwyfwy i’r cwricwlwm prif ffrwd a chymryd rhan ym mywyd yr ysgol.