Bodringallt Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdestref Sirol Rhondda Cynon Taf

Bodringallt Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Dull ysgol gymunedol effeithiol i wella ymgysylltiad rhieni a deilliannau disgyblion

Agwedd ragorol ar ddarpariaeth yr ysgol yw ei phartneriaethau cryf â rhieni a’r gymuned ehangach, sy’n meithrin ymdeimlad cryf o berthyn. Mae arweinwyr yn gweithio’n agos gyda phartneriaid allanol i ddarparu cymorth wedi’i dargedu, cyfleoedd dysgu ac arweiniad i ddisgyblion a’u teuluoedd. Maent hefyd yn cynnig mannau penodol lle gall teuluoedd gysylltu â staff a’u plant. Mae mentrau fel ‘Reading Rhondda’ a ‘Magic Maths’ yn helpu rhieni a disgyblion i ddatblygu medrau cymdeithasol, llythrennedd a rhifedd hanfodol i gefnogi dysgu gartref. Er mwyn lleihau rhwystrau economaidd-gymdeithasol, mae’r ysgol yn cydweithio’n hynod effeithiol â phartneriaid allanol i roi cymhorthdal ar gyfer teithiau, ailgylchu gwisgoedd ysgol, darparu parseli bwyd a chynnal menter ‘Big Bocs Bwyd’, sy’n cael ei harwain gan rieni ac sy’n gweithredu ar sail ‘talwch faint a fynnwch’. Mae’r ymdrechion hyn yn sicrhau bod rhieni’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a bod ganddynt yr hyder i ofyn am gymorth gan yr ysgol.

Manylion

Cyfeiriad

Bodringallt Terrace
Ystrad
Pentre
RCT
CF41 7QE