Datblygu meddylwyr beirniadol a dinasyddion digidol cyfrifol
Mae cwricwlwm yr ysgol yn darparu cyfleoedd cyfoethog a diddorol i ddisgyblion ddysgu trwy gwestiynau ymholi sy’n ysgogi’r meddwl. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion hŷn yn cymhwyso ac yn trosglwyddo ystod o fedrau, gan gynnwys medrau cymhwysedd digidol cynyddol soffistigedig, i ddatrys heriau sy’n seiliedig ar ymholi a chyflwyno eu syniadau’n glir. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’r ysgol yn llwyddo i hyrwyddo disgyblion fel defnyddwyr digidol cyfrifol a chraff. Er enghraifft, mae disgyblion yn cwestiynu dibynadwyedd ffynonellau ar-lein yn rheolaidd ac yn meddwl yn ofalus am yr wybodaeth y maent yn dod o hyd iddi. Mae’r dull cwricwlaidd arloesol hwn yn annog disgyblion i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol wrth ddatrys problemau.