Blaenoriaeth uchel i Gymru a’r Gymraeg yn y cwricwlwm ac mewn addysgu.
Mae disgyblion a staff Arddleen yn falch o fod yn rhan o ysgol yng Nghymru. Ar bob cyfle, caiff treftadaeth, diwylliant ac iaith Cymru eu dathlu a’u cofleidio. Mae cynefin yn rhan ganolog o’r gwaith o gynllunio testunau, ac anogir disgyblion i ddysgu am eu hardal leol a gofalu amdani, er enghraifft trwy ysgrifennu at y gymuned leol am y difrod i Golofn Rodney. Caiff gwybodaeth disgyblion am Gymru ei datblygu trwy ystod eang o ymweliadau sy’n cyfoethogi testunau’n llwyddiannus. O ganlyniad i’r ffocws hwn ar Gymru a Chymreictod, mae staff a disgyblion yn cofleidio dysgu Cymraeg ac mae rhieni’n ei werthfawrogi. Mae gan staff ddisgwyliadau uchel o ddisgyblion ac maent yn eu hannog i siarad Cymraeg yn hyderus ac yn gywir. Mae disgyblion wedi cynrychioli’r ysgol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a’r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen. At ei gilydd, mae cynnydd disgyblion wrth ddysgu Cymraeg yn gryf.