Abercarn Primary School - Estyn
Cynradd - Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Abercarn Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Gorsaf radio dan arweiniad disgyblion

Mae disgyblion yn cynllunio, yn sgriptio ac yn recordio darllediadau ar gyfer cynulleidfa go iawn gan ddefnyddio offer digidol o ansawdd uchel fel rhan o orsaf radio’r ysgol sydd dan arweiniad disgyblion. Mae’r nodwedd lwyddiannus hon o waith yr ysgol yn darparu cyfleoedd dilys i ddisgyblion ddatblygu eu cymhwysedd digidol a’u medrau cyfathrebu. Wrth gyflwyno neu gyfweld ag eraill, mae disgyblion yn trefnu eu syniadau’n glir, yn addasu eu hiaith a thôn eu llais i weddu i’r gynulleidfa ac yn ymateb yn ddigymell i gwestiynau. Mae’r profiadau hyn yn helpu disgyblion i gyfathrebu â mwy a mwy o eglurder a hyder.

Manylion

Cyfeiriad

Chapel Of Ease
Abercarn
NP11 5LH