Ein gweledigaeth yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant a deilliannau i bob dysgwr yng Nghymru. Ein cenhadaeth yw cefnogi darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant hunanwella a dysgu trwy ein gwaith cyngor, arolygu a meithrin gallu. Rydym yn gweld yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o’r weledigaeth hon.
Rydym yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog.
Rydym yn coleddu’r Gymraeg fel dewis iaith i lawer ac fel rhan o’n diwylliant bob dydd.
Rydym yn croesawu adborth ar ein hamcanion a byddwn yn falch o drafod awgrymiadau am y modd y gallem wella ein hamcanion a datblygu camau gweithredu cefnogol.