Cynllun Blynyddol 2026-2027 - Estyn

Cynllun Blynyddol 2026-2027


Yn Estyn, mae ein diben yn glir: helpu i sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn elwa ar yr addysg a’r hyfforddiant gorau posibl. Rydyn ni yma dros ddysgwyr, dros Gymru. Mae’r diben hwnnw’n parhau i lywio ein gwaith ac mae’r Cynllun Blynyddol hwn yn nodi sut byddwn yn cyfrannu dros y flwyddyn sydd i ddod trwy arolygu, cyngor, ymgysylltu a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar wella.