Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Cefnogi lles a dysgu yn ystod COVID-19 – dulliau o ysgolion arbennig

Diweddarwyd y dudalen hon ar 20/08/2021

Rydym yn rhannu cipolygon ar sut mae ysgolion ac UCDau yn cefnogi eu disgyblion a’u cymunedau wrth ymateb i’r amgylchiadau anodd o ganlyniad i COVID-19.

Ysgrifennwyd y dulliau hyn ar ôl galwad ffôn ymgysylltu ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd.

Efallai y gall ysgolion ac UCDau addasu’r rhain ar gyfer eu cyd-destun eu hunain.

Mae’r ysgolion arbennig hyn wedi rhannu eu cipolygon a gafwyd tra’n cefnogi eu disgyblion i barhau â dysgu. Mae’r rhain yn cynnwys darparu cymorth ychwanegol gan Dîm Brysbennu a rheoli disgwyliadau rhieni o ran dysgu cyfunol a dysgu o bell.

Storïau cymdeithasol am ddychwelyd yn esmwyth i’r ysgol

Mewn un ysgol ddydd arbennig pob oed ar gyfer disgyblion ag ystod o anghenion sylweddol, cymhleth a lluosog, paratôdd staff storïau cymdeithasol i ddisgyblion eu rhannu â’u rhieni a’u gofalwyr cyn i’r disgyblion ddychwelyd i’r ysgol, i fynd i’r afael â phroblemau a phryderon posibl a allai godi. Roedd y storïau cymdeithasol hyn yn cynnwys gweithgareddau a chaneuon hwyliog i helpu disgyblion i fod yn ymwybodol o gadw pellter cymdeithasol o dan y slogan “Be smart … Stay apart”. Mae’r pennaeth yn credu bod y negeseuon calonogol hyn wedi galluogi trosglwyddiadau esmwyth wrth i bron pob un o’r disgyblion ddychwelyd. Maent wedi addasu’n dda i ailagor, ac wedi ailymgysylltu’n hapus, gan ymgynefino’n dda iawn ag arferion ac amgylchedd eu hysgol newydd.

Arolwg lles staff

Cynhaliodd un ysgol arbennig pob oed ar gyfer disgyblion ag ystod o anghenion sylweddol, cymhleth a lluosog arolwg o bob un o’r staff am eu lles cyn dychwelyd i’r ysgol. Roedd yr arolwg hwn yn cynnwys cwestiynau fel:

  1. O ystyried yr amgylchiadau a’n lleoliad unigryw, pa mor hyderus ydych chi’n teimlo yn dod i’r ysgol?

  2. Trwy gydol pandemig y coronafeirws, a ydych chi’n teimlo bod eich lles fel cyflogai yn ein hysgol wedi cael ei gymryd o ddifri?

  3. *Yn berthnasol i’r rhai sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain / yn cadw pellter cymdeithasol* Sut ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich cefnogi tra’n gwarchod eich hunain / yn cadw pellter cymdeithasol gartref?

  4. Mae ein hysgol a’r awdurdod lleol wedi darparu cyfarpar diogelu personol priodol ar ein cyfer. A ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael digon o arweiniad a gwybodaeth berthnasol i ddefnyddio hyn yn effeithiol?

  5. Yn sgil cyflwyno tudalen Facebook y staff, Hwb a ParentMail, pa mor dda mae uwch arweinwyr wedi cyfathrebu â chi trwy gydol yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, yn eich barn chi?

Gosod cynllun rheoli traffig

Mae un ysgol arbennig pob oed wedi rhoi cynllun rheoli traffig newydd ar waith ar gyfer ailagor sydd eisoes wedi dod â llawer o fanteision. Mae’r cynllun yn cynnwys defnyddio pwyntiau mynediad ychwanegol i mewn i adeiladau’r ysgol, sydd wedi lleihau llif y bobl. Hefyd, mae wedi sicrhau bod hebryngwyr a rhieni yn aros yn eu cerbydau nes bydd staff yn gofyn iddynt ddod â’u plant i mewn i’r ysgol. Mae hyn wedi lleihau tagfeydd ar ddechrau a diwedd y dydd. Hefyd, mae’r ysgol wedi cyflwyno egwyl o 15 munud rhwng amseroedd dechrau ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd.

Creu ‘swigod coridor’

Mewn un ysgol arbennig breswyl a dydd pob oed ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol a difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog neu anhwylderau’r sbectrwm awtistig, mae dosbarthiadau wedi eu trefnu yn ôl pum ‘swigen coridor’. Mae gan y disgyblion ym mhob swigen eu gofodau dysgu, chwarae a hylendid eu hunain. Ar hyn o bryd, mae disgyblion yn bwyta eu prydau bwyd naill ai yn eu dosbarthiadau neu yn y ffreutur, ond bydd arweinwyr yn ailystyried hyn pan fydd pob disgybl yn dychwelyd.

Creu storïau cymdeithasol

Mae un ysgol arbennig wedi creu mesurau llwyddiannus i gynorthwyo disgyblion trwy ddatblygu “storïau cymdeithasol” unigol sy’n disgrifio eu sefyllfa bresennol. Mae’r “storïau cymdeithasol” hyn yn cael effaith hynod gadarnhaol ar ddisgyblion ag awtistiaeth.

Ymweliadau diogel o bell â chartrefi

Mae un ysgol arbennig yn trefnu ymweliadau ar fws mini o gwmpas y sir ddwywaith yr wythnos. Mae hyn yn golygu y gellir dosbarthu adnoddau ffisegol i deuluoedd, er enghraifft cymhorthion symudedd ac offer TGCh. Mae hyn wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith staff a theuluoedd, ac yn galluogi rhyngweithio wyneb yn wyneb gwerthfawr o bellter diogel.

Tasgau wythnosol trwy’r e-bost

Mewn un ysgol arbennig, caiff dysgu o bell y disgyblion ei gefnogi gan dasgau wythnosol sy’n cael eu hanfon trwy’r e-bost a’u trydar i rieni, yn ogystal â darparu dyfeisiau ar gyfer y disgyblion hynny y mae angen cymorth arnynt. Mae’r amserlen wythnosol yn ymgorffori tasgau o fewn y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae tasgau yn gysylltiedig â medrau bywyd yn bennaf, ac yn cynnwys gweithgareddau fel ffitrwydd ar-lein, arwydd Makaton yr wythnos a gwaith celf i ddiolch i’r GIG.

Mae fideos staff yn helpu cynnal trefn

Mae un ysgol arbennig wedi bod yn canolbwyntio ar gynorthwyo teuluoedd sydd â phlentyn hŷn ag anhwylder y sbectrwm awtistig ac ymddygiad sy’n fwy heriol i sicrhau arferion addas a buddiol yn y cartref. Er enghraifft, mae athro yn cynhyrchu fideos sy’n rhoi cyfarwyddyd i deuluoedd ynglŷn â sut i greu storïau synhwyraidd gartref. Mae’r adnoddau a’r gweithgareddau hyn wedi ennyn ymgysylltiad cadarnhaol pan fydd disgyblion yn gallu gweld eu hathro a staff eraill ar y sgrin, ac ni chaiff eu trefn ei newid.

Cymorth Tîm Brysbennu

Mae Tîm Brysbennu amlasiantaethol Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi gweithredu o un ysgol arbennig ers dechrau argyfwng COVID19. Mae’n cynnwys staff o’r ysgol, maes therapi galwedigaethol, therapi lleferydd ac iaith, seicoleg, deietegydd, gofal cymdeithasol a gofal iechyd a nyrsys a meddygon pediatrig. Gall rhieni a disgyblion fanteisio ar y gwasanaethau trwy wneud apwyntiadau. Er bod hyn wedi cael ei sefydlu i ddarparu ar gyfer disgyblion o’r ffederasiwn ar y dechrau, roedd wedyn yn cynnwys holl ysgolion arbennig ac unedau arbenigol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae’r tîm brysbennu ar gael i holl ysgolion Caerdydd. Mae tîm amlddisgyblaethol, sy’n cynnwys staff ysgol ac aelodau o’r tîm brysbennu, yn cyfarfod bob wythnos i drafod pryderon am unrhyw ddisgyblion sy’n gysylltiedig â’r ffederasiwn. Mae ffocws allweddol ar ddiogelu yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, yn cael eu monitro’n agos.

Rheoli disgwyliadau rhieni

Mae’r pennaeth mewn un ysgol arbennig yn credu bod rheoli disgwyliadau rhieni ynglŷn â dysgu cyfunol a dysgu o bell yn allweddol. Y brif her i rieni yw rheoli eu plant, sydd weithiau’n heriol iawn. Mae’r ffederasiwn yn ystyried opsiynau ar gyfer sut i reoli ailagor yr ysgol yn raddol yn dda. Fodd bynnag, ni fydd darpariaeth gyfyngedig yn ddigonol ar gyfer teuluoedd sydd eisoes mewn argyfwng, a’r rhai sydd ag ymrwymiadau gwaith.

Gwobrau siocled poeth

Mewn un ysgol arbennig, mae “dydd Gwener siocled poeth” wedi parhau fel rhan o system wobrwyo’r ysgol. Mae’r pennaeth yn annog disgyblion i adrodd am yr hyn sydd wedi bod yn mynd yn dda, ac fe gaiff fideo wythnosol ei greu a’i rannu i ddathlu gwaith disgyblion gartref. Gwobrwyir cyflawniadau am wahanol agweddau ar y cwricwlwm bob wythnos.