Beth rydym yn ei harolygu mewn lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir - Estyn

Beth rydym yn ei harolygu mewn lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir



Oedolyn a phlentyn yn cymysgu pridd yn ystod gweithgaredd dysgu awyr agored mewn meithrinfa neu leoliad gofal plant.

Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri thema arolygu mewn lleoliadau meithrin a gofal plant nas cynhelir a ariennir. Mae’n egluro ‘Yr hyn rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn hanfodol i arolygwyr a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i ddarparwyr, i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae canllaw ar wahân sy’n egluro’r broses arolygu a’r fethodoleg sef ‘Sut rydym yn arolygu’. Nodir y tri maes arolygu isod:

Thema 1: Lles a Gofal
Thema 2: Addysgu, Dysgu, Chwarae a Datblygiad
Thema 3: Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae rhagor o wybodaeth am arolygiadau ar gael ar ein gwefannau www.estyn.llyw.cymru a Arolygiaeth Gofal Cymru