
Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes arolygu mewn colegau addysg bellach. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n amlinellu ein hymagwedd at arolygu yn sgil pandemig COVID-19.
Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer colegau i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.
Mae’r pum maes arolygu wedi’u hamlinellu isod.
Meysydd arolygu
MA1 – Dysgu
- 1.1 Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau
MA2 – Lles ac agweddau at ddysgu
- 2.1 Lles
- 2.2 Agweddau at ddysgu
MA3 – Addysgu a phrofiadau dysgu
- 3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm
- 3.2 Ansawdd yr addysgu a’r asesu
MA4 – Gofal, cymorth ac arweiniad
- 4.1 Datblygiad personol
- 4.2 Diogelu
MA5 – Arweinyddiaeth a rheolaeth
- 5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
- 5.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
- 5.3 Dysgu proffesiynol