Arfer Effeithiol |

Ymgysylltu â disgyblion a rhieni i wella presenoldeb disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
42
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cas-blaidd yn gwasanaethu pentref gwledig Cas-blaidd a’r ardal gyfagos.  Fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Sir Benfro.  Ar hyn o bryd, mae 42 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy’n cynnwys saith disgybl oedran meithrin rhan-amser.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae tua 9% o ddisgyblion wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.  Daw pedwar deg tri y cant o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg.  Mae tua 21% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol. 

Diwylliant ac ethos

Mae’r ysgol yn gymuned groesawgar sy’n annog safonau moesol uchel ac ymddygiad da ymhlith disgyblion.  Mae staff yn meithrin ethos gofalgar sy’n golygu bod disgyblion yn cael yr un cyfle i elwa ar bob agwedd ar fywyd ysgol.  Mae staff yn hyrwyddo gofal a pharch rhwng disgyblion ac oedolion a rhwng disgyblion a’u cyfoedion yn effeithiol. 

Datganiad cenhadaeth yr ysgol yw ‘galluogi pob plentyn i ddatblygu fel unigolyn cyfan o ran meddwl, ysbryd a chorff, ac i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol fod yn rhan o gymuned hapus, iach, ddiogel a gofalgar’.  Caiff y datganiad cenhadaeth ei ddeall yn dda gan bawb yn yr ysgol.

Gweithredu

Mae’r cyngor ysgol yn gweithio’n frwdfrydig gyda’r pennaeth a’r corff llywodraethol i wella lles ar draws yr ysgol.  Blaenoriaeth allweddol i’r cyngor ysgol fu datblygu dealltwriaeth disgyblion o bwysigrwydd mynd i’r ysgol.  Mae wedi canolbwyntio ar annog cyfrifoldeb am bresenoldeb da ymhlith disgyblion.

Mae presenoldeb yn eitem reolaidd ar agenda’r cyngor ysgol.  Mae’r pennaeth yn gweithio gyda’r cyngor ysgol i ddadansoddi data presenoldeb yr ysgol a nodi tueddiadau mewn absenoliaeth.  Defnyddiodd y cyngor ysgol holiaduron gyda phob un o’r disgyblion i ddarganfod eu safbwyntiau mewn perthynas â phresenoldeb.  Mae aelodau o’r cyngor ysgol yn monitro agwedd eu cyfoedion tuag at eu presenoldeb personol ar ffurf holiadur ddwywaith y flwyddyn.  O ganlyniad, mae’r ysgol wedi cyflwyno ystod eang o strategaethau i wella a chynnal presenoldeb da yn yr ysgol.  Er enghraifft, maent yn dathlu llwyddiannau disgyblion bob tymor trwy ddefnyddio systemau gwobrwyo.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar les ac ymddygiad disgyblion a’u hagwedd at ddysgu.

O ganlyniad i ddadansoddi deilliannau holiaduron a’r arolwg blynyddol, awgrymodd y cyngor ysgol newidiadau ac addaswyd y polisi presenoldeb sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Mae’n mynd ati i ddatblygu’r cynllun gweithredu presenoldeb blynyddol hefyd.  Mae cynnwys disgyblion yn gwneud yn siŵr bod ganddynt berchnogaeth o’r polisi a’r meysydd i’w gwella yn yr ysgol.  Er mwyn ennyn diddordeb a chefnogaeth rhieni, mae’r cyngor ysgol wedi creu taflen wybodaeth ddefnyddiol am bwysigrwydd presenoldeb da.

Mae’r cyngor ysgol yn gwneud cyflwyniadau rheolaidd i’r corff llywodraethol yn amlygu pwysigrwydd presenoldeb da.  Mae’r cyflwyniadau hyn yn gwneud yn siŵr bod presenoldeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r ysgol. 

Deilliannau

Mae lefelau presenoldeb disgyblion yn rhagorol.  Mae canran presenoldeb yr ysgol wedi ei gosod yn y 25% uchaf yn gyson o gymharu ag ysgolion tebyg ar sail meincnodau prydau ysgol am ddim.  Mae disgyblion yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o bwysigrwydd mynd i’r ysgol.  Mae’r cyngor ysgol wedi creu pamffled i annog a chynnal presenoldeb uchel ac wedi ei rannu ag ysgolion eraill yn y dalgylch.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar bresenoldeb yn Ysgol Cas-blaidd ynghyd â phresenoldeb mewn ysgolion eraill.

Mae gwella a chynnal presenoldeb wedi cyfrannu’n sylweddol at y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Cyfranogiad disgyblion: canllaw arfer orau

pdf, 1.48 MB Added 07/12/2016

Mae’r adroddiad yn archwilio pedair o nodweddion ysgolion lle mae cyfranogiad disgyblion yn gadarn ac mae’n nodi’r cyfraniad y gall cyfranogiad disgyblion ei wneud at wella ysgol, yn ogystal â’r ma ...Read more