“Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw…”
Cafodd yr agoriad hwn i fframwaith y Cwricwlwm i Gymru effaith arwyddocaol ar feddwl yr ysgol, gan gyd-fynd â’r cysyniad bod gwybodaeth nerthol yn llwybr at degwch. Hefyd, ystyriwyd mai caffael gwybodaeth ymrymusol oedd y llwybr at gyflawni’r Pedwar Diben.
Lluniwyd datganiad cenhadaeth y cwricwlwm, y mae rhan ohono fel a ganlyn, “Mae ein hymagwedd yn rhoi pwys ar gwricwlwm gwybodaeth gyfoethog, a gyflwynir gan staff addysgu arbenigol, gwybodus yn addysgegol. Nod hyn yn gyson yw darparu cyfleoedd dysgu effeithiol, diddorol trwy addysgu sy’n angerddol, yn fanwl gywir ac yn bwrpasol.”
- Mae cwricwlwm gwybodaeth gyfoethog wedi cael sylw sylweddol mewn systemau addysg ledled y byd. Mae’r elfennau allweddol a ddefnyddiwyd yn yr ysgol wrth lunio’i chwricwlwm yn cynnwys:
- Safle sylfaenol gwybodaeth a’i gallu i ymestyn dysgu pellach.
- Gwybodaeth mewn ffurfiau gwahanol: datgeiniol, gweithdrefnol, trwy brofiad, disgyblaethol.
- Mae pynciau unigol yn bwysig. Maent yn dod â chorff sefydledig o wybodaeth, medrau a thraddodiad unigryw. Mae pynciau’n darparu trefn barod, gan gynnig cydlyniant fertigol cryf.
- Caiff y wybodaeth i’w dysgu ei phennu’n fanwl.
- Mae amser y cwricwlwm yn gyfyngedig; rhaid dewis gwybodaeth yn ofalus. Mae’r wybodaeth hon yn bwysig a chaiff ei haddysgu i’w chofio, sy’n gofyn am gymhwyso ymchwil seiliedig ar dystiolaeth.
- Caiff gwybodaeth ei dilyniannu’n fwriadol ac yn drefnus i saernïo sgema cadarn cymaint â phosibl (rhwydweithiau dysgu niwral).
Ymagwedd cwricwlwm disgyblaethol ydyw, gyda myfyrwyr yn dilyn ystod eang a chytbwys o bynciau. Arweinwyr canol, yn gysylltiedig â mwy o annibyniaeth, sydd â chyfrifoldeb sylweddol am ddylunio’r cwricwlwm. Mae’r annibyniaeth hon (e.e. o ran polisïau adborth, penderfyniadau cwricwlaidd, llunio asesiadau, cynllunio gweithredu) wedi’i meithrin ochr yn ochr â datblygu diwylliant sicrhau ansawdd cadarn.
Mae dysgu proffesiynol wedi’i dargedu i ymestyn y meddwl ynghylch dilyniant ac asesu, gyda phwyslais ar Egwyddorion Dilyniant a Diben Asesu. Mae hyn yn cofleidio’r cwricwlwm fel model dilyniant: dilyniant sydd wedi’i gynllunio yn y cwricwlwm, nid ar wahân iddo. Mae dysgwr sy’n llwyddo yn y cwricwlwm yn gwneud cynnydd da.
Ystyrir y berthynas rhwng y cwricwlwm ac addysgeg yng ngoleuni crynodebau seiliedig ar dystiolaeth o addysgu effeithiol (e.e. ‘What Makes Great Teaching?’ gan Ymddiriedolaeth Sutton). Yr hyn sy’n allweddol yw datblygiad ymarferwyr arbenigol, gwybodus yn addysgegol – arbenigwyr yn eu meysydd pwnc ac yn eu gallu i gymhwyso addysgeg effeithiol.
Mae darparu strategaethau addysgu ysgol gyfan a datblygu’r athro sy’n arbenigwr pwnc yn digwydd trwy ddwy elfen o ddysgu proffesiynol:
- Technegau a ddewiswyd yn ofalus sy’n canolbwyntio ar arferion talu sylw a naws yr ystafell ddosbarth: ‘arferion nerthol’ yr ysgol. Mae arferion o’r fath yn symleiddio’r profiad dysgu – lleihau’r baich gwybyddol, yn hoelio sylw dysgwyr yn gyflym ac yn sicrhau bod pawb yn cymryd rhan. Mae amser HMS sylweddol a rolau newydd yr ‘anogwyr addysgu’ yn ategu’r fenter ysgol gyfan hon.
- Mae’r holl athrawon yn cael arsylwadau anogaeth hyfforddiadol gan arweinwyr pwnc. Yr athro sy’n penderfynu ar y prif ffocws, sy’n elfen benodol o ymarfer, wedi’i osod o fewn cyd-destun eu disgyblaeth. Mae’r model anogaeth yn cynnwys trafodaeth cyn ac ar ôl arsylwi. Mae’r dull manwl gywir hwn mewn meysydd disgyblaeth yn helpu i ddatblygu athrawon sy’n arbenigwyr pwnc.
Nod y cwricwlwm a roddwyd ar waith yw sicrhau bod staff yn gallu bod: yn angerddol am yr hyn y maen nhw’n ei addysgu trwy berchnogaeth ar gynnwys eu disgyblaeth; yn fanwl gywir yn eu hymarfer gyda datblygiad proffesiynol parhaus yn ategu hynny; yn bwrpasol wrth benderfynu ar gynnwys ac addysgeg er mwyn sicrhau cynnydd cadarn gan fyfyrwyr.
Wrth ei gyflwyno, cydnabuwyd y byddai dyluniad y cwricwlwm, datblygiad addysgegol a gwaith ar asesu dilys yn gyfamserol. Nid cyfaddawd yw hyn; mae’n broses barhaus o ailadrodd a gwella: nid yw’n ddigwyddiad ‘unwaith ac am byth’ (Y Daith i 2022). Camau nesaf yr ysgol yw: datblygu ei waith ar drefn lorweddol trwy gysylltiadau trawsgwricwlaidd; datblygu sylfaen gadarn o ddysgu proffesiynol wrth ddylunio a defnyddio asesiadau crynodol; parhau â’i gwaith yn cefnogi’r addysgeg orau.