Arfer Effeithiol |

Rhoi cwricwlwm personoledig ar waith

Share this page

Nifer y disgyblion
395
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn awdurdod lleol Wrecsam.  Mae 395 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed, gan gynnwys 42 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.  Mae’r ysgol yn trefnu disgyblion yn 14 dosbarth un oedran, a dau ddosbarth meithrin.  Mae tua 5% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 8% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Daw mwyafrif y disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol ac mae tua hanner y disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae hyn gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 6%.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ers tua thair blynedd, mae’r ysgol wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau cydweithredol er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.  Gan ddefnyddio dull traddodiadol iawn, gwerthusodd y tîm arweinyddiaeth effaith y prosiectau, a chydnabod bod cyfle i wneud newidiadau radical i gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm.  Dangosodd ymarferion monitro ymgysylltiad a brwdfrydedd cynyddol pan roddwyd y rhyddid i ddisgyblion ddewis testunau neu themâu a phan oeddent yn cael eu haddysgu mewn grwpiau gallu cymysg.  Yr adborth hwn gan ddisgyblion oedd y sbardun ar gyfer newid sylweddol.

 

Roedd disgyblion y cyfnod sylfaen eisoes wedi bod yn cynllunio ‘Heriau Tsili’ , lle maent yn dewis pa mor anodd a heriol yw eu tasgau.  Datblygwyd hyn ymhellach i’w galluogi i ddewis y cyd-destun ar gyfer dysgu trwy’r testunau neu’r themâu o’u dewis nhw.

 

Yng nghyfnod allweddol 2, lle roedd cwricwlwm yn fwy ‘seiliedig ar bynciau’ ar waith, cydnabu’r tîm arweinyddiaeth fod angen cyflwyno newid dull yn unol ag addysgeg y cyfnod sylfaen, a’i reoli’n ofalus, gan gynnwys cefnogi datblygiad staff.  Roedd athrawon Blwyddyn 6 yn awyddus i dreialu cynllunio wedi’i arwain gan y plentyn yn eu dosbarthiadau eu hunain, a rhoddwyd y rhyddid iddynt arbrofi â chynllunio’r cwricwlwm a threfniadaeth dosbarth.  Fe wnaethant gysylltu’n agos â’r tîm arweinyddiaeth, a darparu cymorth a hyfforddiant parhaus i bob un o’r staff i gyflwyno’r arfer yn systematig.  Roedd pob un o’r staff yn falch â’r effaith ar les, ymgysylltiad a brwdfrydedd disgyblion a staff.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r ysgol wedi cydweithio i ddatblygu cwricwlwm arloesol a phersonoledig, sy’n arddel pedwar diben y cwricwlwm i Gymru, i ymgysylltu â phob un o’r disgyblion, ac ennyn eu brwdfrydedd, i fod yn ddysgwyr aeddfed, uchelgeisiol, medrus ac annibynnol.

  • I ddechrau, mae athrawon yn dewis testun neu thema eang, penagored, i sbarduno diddordebau’r disgyblion.
  • Wedyn, mae disgyblion yn gweithio’n unigol, gyda ‘phartneriaid siarad’ neu mewn grwpiau i gyflwyno’r hyn yr hoffent ei ddysgu amdano, fel defnyddio mapiau meddwl.
  • Mae athrawon yn coladu’r wybodaeth ac yn gweddu syniadau’r disgyblion i feysydd dysgu’r cwricwlwm gan ddefnyddio’r rhaglen astudio i sicrhau bod medrau’n cael eu cwmpasu’n briodol.
  • Wedyn, mae athrawon a disgyblion yn ffurfio cyfres o ‘Gwestiynau Mawr’ yn deillio o gynlluniau’r disgyblion, gan sicrhau bod dysgu yn wirioneddol a phwrpasol.  Roedd enghreifftiau da yn cynnwys ‘a fydd orang-wtaniaid wedi dod i ben erbyn fy mhen-blwydd yn 21 oed?’ a ‘pam rydym ni’n cael tywydd stormus?’ ac ‘a ddylem ni wahardd plastig yn yr ysgol?’  
  • Mae cylch cynllunio pob ‘Cwestiwn Mawr’ yn para am ryw ddwy neu dair wythnos yn dibynnu ar ddiddordebau’r disgyblion a’r ffordd y mae’r thema’n datblygu.
  • Mae athrawon yn cadw cofnod parhaus o fedrau trwy amlygu yn y rhaglenni astudio.  Mae hyn yn galluogi athrawon i olrhain ymdriniaeth, ac yn llywio dewisiadau thema yn y dyfodol, yn seiliedig ar un o bedwar diben y cwricwlwm.
  • Defnyddir y rhain i greu ‘heriau’/ ‘blychau heriau’, profiadau cyfannol dysgu wedi’u cydblethu’n ofalus â medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh.
  • Mae athrawon yn manteisio ar bob cyfle i ddarparu dibenion a chyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu, er enghraifft anfon negeseuon e-bost i gwmnïau o’u dewis eu hunain i’w darbwyllo i ddefnyddio olew palmwydd cynaliadwy yn eu cynhyrchion.
  • Mae disgyblion yn gweithio naill ai gyda’u ‘partner siarad’, mewn grwpiau neu yn annibynnol ar yr heriau.  Mae gan athrawon ddisgwyliadau uchel ac maent yn darparu adborth ‘byw’ effeithiol drwy gydol yr amser i gefnogi ac ymestyn y dysgu.
  • Gwneir defnydd effeithiol o strategaethau asesu ar gyfer dysgu, fel meini prawf llwyddiant wedi’u creu gan ddisgyblion, pecynnau cymorth, waliau gwaith, pwerau dysgu a pharthau i gefnogi annibyniaeth disgyblion.
  • Mae athrawon yn darparu rhestrau sillafu a geirfa lefel uwch ar gyfer pob ‘Cwestiwn Mawr’ i drwytho’r disgyblion mewn iaith gyfoethog er mwyn iddynt allu trafod ac ymgysylltu â’r testun ar y lefel uchaf.
  • Rhoddir pwyslais ar ddefnyddio gweithdai, ymwelwyr, ymweliadau (gan gynnwys ‘teithiau maes rhithwir’) i ymestyn dysgu’r disgyblion.
  • Yn aml, caiff disgyblion y rhyddid i ddewis sut i gwblhau heriau yn eu llyfrau gwaith, gan ddefnyddio amrywiaeth o apiau.
  • Gwneir defnydd helaeth o bortffolio ar-lein o brofiadau dysgu disgyblion ar draws yr ysgol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae cynnwys y dysgwyr fel partneriaid allweddol mewn cynllunio wedi cael effaith sylweddol ar eu hunan-barch a’u brwdfrydedd.  Mae hyn wedi arwain at welliannau i les, cynnydd a safonau disgyblion.
  • Nid yw disgyblion yn ofni mentro, ac maent yn dyfalbarhau i herio eu hunain.  Mae hyn yn creu amgylchedd lle mae disgyblion yn barod i dderbyn y cyfrifoldeb i weithio’n galed, gwneud eu gorau a mentro heb ofni gwneud camgymeriad.
  • Mae tasgau cwbl gynhwysol yn sicrhau llwyddiant i bob un o’r dysgwyr, gan alluogi iddynt ragori ar eu lefelau disgwyliedig.
  • Mae profiadau cyfannol yn arfogi dysgwyr â medrau bywyd hanfodol.
  • Mae ystafelloedd dosbarth yn ferw o weithgarwch pwrpasol, lle mae dysgwyr yn defnyddio’r diwrnod ysgol hyblyg i benderfynu sut i drefnu eu hamser i gyflawni lefel uwch ac archwilio’n fanylach.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Mae datblygiad staff mewnol wedi’i arwain gan dimau’r CDY (cynllun datblygu ysgol), arweinwyr ac athrawon unigol wedi rhannu arfer lwyddiannus ar draws pob dosbarth yn yr ysgol.
  • Mae ‘Arweinydd Addysgu a Dysgu’ yr ysgol wedi darparu cymorth a hyfforddiant ar gyfer athrawon yn ystod eu hamser cynllunio a pharatoi, yn gweithio ochr yn ochr â staff yn eu dosbarthiadau eu hunain yn modelu arfer effeithiol.  Mae hyn wedi darparu pecyn cymorth cynhwysfawr gan sicrhau arfer gyson ar draws yr ysgol gyfan.
  • Mae cyfarfodydd pontio clwstwr Blwyddyn 6/7 gyda’r ysgol uwchradd wedi cryfhau cysylltiadau â chydweithwyr.  Amlygodd y safonau uchel yn llyfrau disgyblion effaith y dull arloesol a’r cwricwlwm cyfoethog a ddarperir.  Arweiniodd hyn at ymweliadau â ffocws gan gydweithwyr uwchradd o’r adrannau mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth i arsylwi ar ddiwedd cyfnod allweddol 2.
  • Mae rhieni wedi cael eu cynnwys yn llawn yn y broses trwy weithdai gwybodaeth, diwrnodau ‘dod â’ch rhiant i’r ysgol’.
  • Mae llywodraethwyr wedi cael eu hysbysu trwy gyfarfodydd y cwricwlwm, teithiau dysgu, ymarferion monitro ‘gwrando ar ddysgwyr’ ac ymweliadau anffurfiol â’r ysgol.
 

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Cynnwys pob un o’r staff yn y broses hunanwerthuso

Mae staff yn Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig y Santes Fair wedi dechrau cymryd mwy o ran yn y broses hunanwerthuso. Trwy rannu cyfrifoldeb, caiff staff gyfle i gydweithio â’i gilydd. ...Read more