Arfer Effeithiol |

Paru’r cwricwlwm i Gymru â gwerthoedd ysgolion a dyheadau athrawon

Share this page

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Llanisien Fach yn Rhiwbeina, yng ngogledd Caerdydd.  Mae 494 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 78 o blant meithrin rhan-amser.  Mae dau ddosbarth gallu cymysg ym mhob grŵp blwyddyn.  Mae gan yr ysgol uned sylfaen adnoddau arbennig hefyd ar gyfer disgyblion o bob rhan o’r ddinas sydd ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol.

Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu mamiaith.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd hil gymysg.  Nid yw unrhyw ddisgyblion yn cael cymorth ar gyfer dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. 

Mae’r ysgol yn nodi bod gan rai disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y disgyblion yn yr uned sylfaen adnoddau arbennig.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Yn dilyn cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), mae arweinwyr yr ysgol wedi cynnwys cymuned yr ysgol mewn arfarnu ei diben, ei gweledigaeth a’i gwerthoedd cyffredinol.  Mae arweinwyr yn gofyn i’r holl randdeiliaid ystyried tri chwestiwn, a myfyrio arnynt, sef:

  • Pa fath o ysgol ydym ni’n dyheu i’w chael?
  • Beth ydym ni’n ceisio’i gyflawni?
  • Sut ydym ni am i’n disgyblion fod pan fyddant yn gadael Llanisien Fach?

Roedd rhanddeiliaid wedi’u synnu o ddarganfod bod eu barn ar yr hyn yr oeddent yn ceisio’i gyflawni ar gyfer disgyblion Llanisien Fach a pha fath o ysgol yr oeddent yn dyheu amdani yn cyd-fynd yn dda â’r rheiny a amlinellir gan yr Athro Donaldson.  Arweiniodd canlyniad y broses hon at gytundeb ar unwaith gan staff ac ymrwymiad  parod i ddatblygu’r cwricwlwm.  Teimlai staff fod Cwricwlwm arfaethedig Cymru yn cyd-fynd â gwerthoedd a dyheadau dilys ymarferwyr o’r diwedd. 

O ganlyniad i’r broses hon, daeth staff i’r casgliad hefyd eu bod wedi bod yn addysgu cwricwlwm “cuddiedig” ers sawl blwyddyn, lle byddent yn cynllunio a meithrin profiadau i gyflawni gwerthoedd yr ysgol yn ogystal â’r cwricwlwm cenedlaethol statudol.  Er bod athrawon yn datblygu gwerthoedd fel cydweithrediad, addasrwydd a mentro, gwnaed hyn yn bennaf trwy weithgareddau ar wahân.  Yn dilyn diwrnod hyfforddiant ysgol gyfan i drafod y “cwricwlwm cuddiedig” hwn, penderfynodd staff gynnal archwiliad o ddarpariaeth bresennol yr ysgol i arfarnu’r graddau yr oedd y pedwar diben eisoes yn cael eu datblygu.  Cydnabu staff bwysigrwydd cynnwys llawer o weithgareddau cyfredol yn y cwricwlwm newydd ac roedd eisiau sicrhau nad oeddent yn “colli syniadau gwerthfawr wrth geisio gwaredu’r hyn nad oes ei eisiau”, fel oedd wedi digwydd â newid blaenorol i’r cwricwlwm.

Cam cyntaf yr archwiliad oedd i uwch arweinwyr gynnal cyfres o deithiau dysgu, yn arsylwi a gwrando ar ddisgyblion er mwyn cael amcan o brofiadau dysgu bob dydd oedd eisoes wedi cyflawni pedwar diben y cwricwlwm.  Cofnodwyd hyn mewn taith ffotograffau digidol, a gafodd ei chynhyrchu a’i harddangos yn eang ar draws yr ysgol gan roi proffil uchel i’r pedwar diben.

Bu arweinwyr yn canolbwyntio ar gofnodi’n fwy cryno pa mor rheolaidd yr oedd y pedwar diben yn cael eu bodloni.  Buont yn arfarnu addysgu a dysgu i nodi pa mor aml yr oedd pedwar diben y cwricwlwm yn amlwg yn y ddarpariaeth bresennol.  Fe wnaethant ystyried ble roedd y bylchau’n bodoli a siarad am yr hyn yr oedd angen ei addasu gyda phob un o’r staff.  Bu pob aelod o staff yn gweithio mewn sesiynau grŵp ffocws bach gyda thrawstoriad o gymuned yr ysgol, a bu grwpiau’n myfyrio ar y profiadau dysgu a ddarparwyd eisoes.  Roedd staff yn awyddus i ddarganfod ble roedd eu cwricwlwm presennol yn annog disgyblion i adeiladu ar bob un o nodweddion y pedwar diben.  Datblygwyd y broses hon o weithgaredd nodyn ‘post-it’ i fersiwn ar y we wedi’i hintegreiddio ar wefan yr ysgol.

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Yn ystod diwrnod hyfforddi’r cwricwlwm, bu staff yn ystyried eu dehongliad o ‘gyd-destun cyfoethog’.  Dosbarthodd arweinwyr gopïau o Bennod 5 Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), a gofyn i ddau grŵp ddethol geiriau ac ymadroddion allweddol a fyddai’n nodi nodweddion cyd-destun cyfoethog yn glir.  Fe wnaethant gymharu’r ddwy restr a llunio rhestr o feini prawf i ‘ddysgu ystyrlon a dilys’ ddigwydd.  Daeth y staff i’r casgliad y dylai ‘cyd-destun ystyrlon a dilys’:

  • gynnwys dull dynamig o addysgu agwedd ar ddysgu sy’n darparu byd o brofiadau a chyfleoedd ar gyfer dysgu mewn amgylchedd cyffrous sy’n llawn posibiliadau
  • darparu profiadau uniongyrchol sy’n ddifyr a heriol, a datblygu penderfyniad, addasrwydd, magu hyder, mentro a menter
  • darparu cyfleoedd cynlluniedig i ailedrych ar fedrau a’u hymgorffori mewn gwahanol ffyrdd fel bod dysgu’n dod bron yn isymwybodol

Gyda’u credoau presennol ac egwyddorion Donaldson mewn cof, bu athrawon a chynorthwywyr addysgu yn gweithio mewn grwpiau ar draws sectorau mewn gweithgareddau carwsél.  Fe wnaethant rannu syniadau ar addasu a diweddaru cyd-destunau presennol i ddatblygu cwricwlwm cyfoethog a chreadigol.  Roedd hyn yn cynnwys annog staff i fentro, meddwl yn eang a rhoi’r ‘waw’ ffactor mewn dysgu.  Bu athrawon yn ystyried llais y disgybl yn llawn trwy ofyn i ddisgyblion beth roeddent am ei ddysgu.  Yn bwysicaf oll, fe wnaethant eu hannog i feddwl am ffyrdd ysbrydoledig a chreadigol yr hoffent ddysgu ynddynt, fel defnyddio rhieni yn yr ystafell ddosbarth i osod problemau y byddent yn eu hwynebu yn eu gweithle.  Datblygodd hyn i fod yn brosiect “Ysbrydoli Cenhedlaeth” yr ysgol, sy’n galluogi rhieni i fynd i’r ysgol i drafod eu her gyrfa ac ysbrydoli plant yn eu maes gwaith.

Er mwyn sefydlu ethos lle mae staff yn gwneud dysgu’n fwy deniadol, sicrhaodd arweinwyr fod staff yn cael digon o amser er mwyn i hynny allu digwydd.  Sylweddolodd arweinwyr fod angen iddynt helpu athrawon i reoli eu baich gwaith yn fwy effeithlon a newid eu disgwyliadau ynglŷn â chynllunio.  Mae’r ysgol wedi diddymu cynlluniau wythnosol o blaid “Dalenni Pacer” fel offeryn cynllunio.  Mae Dalenni Pacer yn cymryd “waw” ffactor a phwynt mynediad y cyd-destun, fel bod athrawon yn mapio’r medrau i’w cwmpasu ym mhob maes dysgu dros hanner tymor.  Mae cynllunio yn cyfuno dysgu trawsgwricwlaidd sy’n cwmpasu nifer o feysydd pwnc lle bo’n briodol, ond yn cynnal ffocws ar safonau a dilyniant medrau.  Mae’r ffocws ar addysgeg a datblygu profiadau dysgu deniadol ar gyfer y plant.

Trwy ddadansoddi’r gweithgareddau arbrofi hyn, amlygwyd y cyswllt sylfaenol rhwng dibenion y cwricwlwm ac addysgeg.  Fe wnaethant greu templed addysgu, archwilio pob un o’r meysydd dysgu a phrofiad ac ystyried y 12 egwyddor addysgegol.  Mae arweinwyr wedi datblygu rhaglen dysgu proffesiynol bwrpasol a oedd yn dehongli a chyflwyno’r 12 maes hyn trwy sesiynau hyfforddi.

Mae hyn yn galluogi staff i fodelu medrau a strategaethau newydd; i ymarfer ac arbrofi â syniadau newydd yn eu hystafelloedd dosbarth fel eu bod yn rhannu a mireinio addysgeg yn barhaus.  Mae’r ffocws ar athrawon yn mynd ati i ymchwilio a dysgu yn yr ystafell ddosbarth, mentro a gweithio y tu allan i’w meysydd cyfarwydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae Llanisien Fach wedi datblygu diwylliant cryf o rannu arfer ac mae gan staff y rhyddid i drefnu ac arsylwi arfer ei gilydd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu medrau penodol.  Yn fwy diweddar, mae ymarferwyr arweiniol wedi datblygu model hyfforddi, gyda staff yn canolbwyntio ar ddatblygu a chryfhau medrau addysgegol yn yr ystafell ddosbarth.  Trwy ddefnyddio egwyddorion hyfforddi, mae staff yn gweithio gyda’i gilydd mewn timau grwpiau blwyddyn cyn cydweithio ar ddatblygiad addysgegol gyda grŵp ar draws sectorau.  Mae arweinwyr yn canolbwyntio ar ragoriaeth mewn dysgu ac addysgu i sicrhau bod yr ysgol yn gosod sylfaen gadarn i gyflawni pedwar diben y cwricwlwm yn y dyfodol.

Cam 3:  Cyflawni newid

Mae’r ymateb i Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015) gan staff wedi bod yn un angenrheidiol a chadarnhaol ac wedi cael ei weld fel cyfle i ailedrych ar y rhesymau dros pam y gwnaethant ddewis addysgu yn y lle cyntaf.  Mae staff yn gwerthfawrogi’r berchnogaeth sydd ganddynt mewn dylanwadu a phennu newidiadau.  Er bod staff yn wyliadwrus o fentro a meddwl “y tu allan i’r blwch” i ddechrau yn ystod cyfnodau cynnar arfarnu’r cwricwlwm, maent bellach yn croesawu diwygio ac yn ystyried sut byddant yn arfarnu effaith ar safonau addysgu a dysgu.

Mae arweinwyr yn cydnabod bod cadw gweledigaeth yr ysgol yn ganolog i’r broses a hyrwyddo meddylfryd ‘mae unrhyw beth yn bosibl’ yn hanfodol i annog y rheiny a oedd yn gyfforddus â dulliau cyfarwydd, i groesawu newid.  Mae parhau â’r model hyfforddi â ffocws, cyfleoedd i arsylwi arfer dda, rhaglen berthnasol o ddatblygiad proffesiynol a rhwydweithio ag ysgolion eraill yn sicrhau bod gan staff y medrau gofynnol i roi’r cwricwlwm newydd ar waith.

Yn Llanisien Fach, mae athrawon wedi rheoli’r cwricwlwm ‘cuddiedig’ i ffurfio a llywio’r cwricwlwm newydd.  Mae gwerthoedd yr ysgol yn cyd-fynd â’r pedwar diben ac yn ganolog i bopeth a wnânt.  Mae profiadau ystyrlon yn darparu cyd-destunau cyfoethog i ddyfnhau dysgu sy’n croesawu llais y disgybl i sicrhau bod dysgu yn ddeniadol.  Mae staff yn rheoli baich gwaith yn fwy effeithiol ac yn sicrhau bod dysgu’n ganolog, ac yn parhau i fod yn ganolog.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Arloesi'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd

pdf, 940.23 KB Added 17/05/2018

Darganfyddwch ddull pedwar cam y gall eich ysgol ei ddefnyddio fel strwythur i gefnogi syniadau cwricwlaidd a dysgu proffesiynol. ...Read more