Arfer Effeithiol |

Meithrin medrau adeg amser byrbryd

Share this page

 
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Meithrin Ynyshir a Wattstown wedi’i gofrestru i dderbyn hyd at 24 o blant.  Mae’r lleoliad yn darparu gofal sesiynol a gofal dydd llawn i blant rhwng dwy a phedair blwydd oed.  Mae’n darparu addysg y blynyddoedd cynnar wedi’i hariannu, darpariaeth Dechrau’n Deg a’r cynnig gofal plant wedi’i ariannu, yn ogystal â darparu lleoedd i blant sy’n talu ffioedd. 

Daw bron pob un o’r plant o gartrefi sy’n siarad Saesneg fel eu prif iaith.  Nod y lleoliad yw rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i blant gyrraedd eu llawn botensial mewn amgylchedd meithringar a gofalgar o ansawdd uchel.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Roedd y lleoliad yn arfer cynnig arfer draddodiadol yn ystod amser byrbryd, a oedd yn cynnwys gweini’r plant mewn grŵp cyfan gan ddefnyddio cwpanau a phlatiau plastig, a pheidio â chynnig unrhyw ddewis o fwyd neu ddiod.  O’u harsylwadau, cydnabu’r ymarferwyr bod yr arfer hon yn cael 

effaith negyddol ar les ac ymddygiad plant, ac nid oedd yn hyrwyddo eu hannibyniaeth nac yn caniatáu iddynt wneud dewisiadau.  Roeddent yn cydnabod nad oedd yn briodol disgwyl i blant mor ifanc eistedd am gyfnodau hir wrth y bwrdd bwyd.  Fe wnaethant sylweddoli mai ychydig iawn o blant oedd â phrofiad o eistedd gyda’i gilydd wrth y bwrdd yn anffurfiol i sgwrsio a rhannu bwyd a diod.  Arweiniodd hyn at y tîm yn datblygu ‘byrbryd treigl’, lle gallai plant estyn lluniaeth yn annibynnol ar hyd y sesiwn. 

Cofrestrodd y lleoliad ar gyfer y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy.  Datblygodd hyn ddealltwriaeth ymarferwyr o fanteision modelu ffyrdd iach o fyw.  Trwy weithredu ar wybodaeth o hyfforddiant, creodd ymarferwyr fwydlen amrywiol o fyrbrydau, prynu llestri a gwydrau go iawn a dechrau defnyddio cyllyll a ffyrc go iawn.  Darparodd hyn gyfleoedd gwerthfawr i blant gael profiad o ddefnyddio adnoddau go iawn o ansawdd da, a dysgu sut i edrych ar eu hôl yn ofalus.   

Cynhwysodd y lleoliad deuluoedd trwy gynnig sesiynau ymgysylltu â rhieni, a ddarparodd cyfoeth o wybodaeth am fanteision byrbrydau a ffyrdd o fyw iach.  Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y dewisiadau maent yn eu darparu gartref.  Mae llawer o rieni wedi cymryd rhan mewn sesiynau coginio gyda’u plant yn y lleoliad.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae plant yn dewis pryd i gael eu byrbryd ac yn gweini eu hunain yn annibynnol.  

Mae ymarferwyr yn modelu sut i ddefnyddio’r ardal byrbrydau yn ofalus er mwyn i’r plant wybod beth i’w wneud.  Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’r plant ac, o ganlyniad, mae’r plant yn datblygu amrywiaeth eang o fedrau’n effeithiol.  

  • Mae plant yn dysgu am bwysigrwydd hylendid personol.  Mae’r rhan fwyaf o blant yn deall yr arfer yn dda ac yn golchi eu dwylo’n annibynnol cyn iddynt estyn byrbryd.
  • Mae bron pob plentyn yn gwneud dewisiadau hyderus wrth iddynt ddewis bwyd, llestri priodol a chyllyll a ffyrc, a gweini eu hunain.   
  • Maent yn dysgu sut i gymryd tro, yn aros yn amyneddgar ac yn sgwrsio â’u cyfoedion ac oedolion wrth iddynt fwyta ac yfed. 
  • Daw’r rhan fwyaf o blant yn hyfedr wrth ddefnyddio gefeiliau, llwyau a chyllyll wrth weini, crafu, arllwys a thaenu.  Mae hyn yn datblygu eu medrau echddygol mân yn dda.
  • Mae bron pob plentyn yn dysgu sut i ddefnyddio cyllyll a siswrn yn ofalus ac yn ddiogel i dorri a thaenu.  
  • Mae ymarferwyr yn annog plan i fod yn fentrus a rhoi cynnig ar fwydydd newydd o’u diwylliant eu hun a diwylliannau eraill.
  • Mae bron pob plentyn yn dysgu i ysgwyddo’r cyfrifoldeb o glirio ac ailgylchu unrhyw fwyd sy’n weddill.

Wedi i’r arfer hon gael ei sefydlu, symudodd ymarferwyr ymlaen i blannu, tyfu a chynaeafu perlysiau a llysiau gyda’r plant, a’u coginio a’u defnyddio yn ystod amser byrbryd. 

Mae ymarferwyr wedi gwerthuso eu gwaith a nodi’r camau nesaf i adeiladu ar eu harfer dda.  Eu nod yw:

  • compostio ein gwastraff bwyd wedi’i ailgylchu, er mwyn i’r plant ddeall y cylchred llawn
  • galluogi plant i olchi a sychu eu llestri er mwyn annog eu hannibyniaeth ymhellach

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae arsylwadau ymarferwyr yn dangos bod ymddygiad, medrau siarad a gwrando, medrau personol a chymdeithasol a medrau corfforol plant, ynghyd â’u gallu i ganolbwyntio, wedi gwella’n sylweddol.  Mae llawer ohonynt yn cyflawni uwchlaw’r deilliannau disgwyliedig ar gyfer eu hoed mewn datblygiad personol a chymdeithasol o ganlyniad i’w profiadau.  Mae plant yn mwynhau eu byrbryd ac yn defnyddio’r ardal yn gyfrifol.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae llawer o ymarferwyr ar draws yr awdurdod lleol wedi ymweld â’r lleoliad i arsylwi’r arfer amser byrbryd.  Mae swyddogion yr awdurdod lleol yn cydnabod y ddarpariaeth amser byrbryd yn enghraifft o arfer dda.