Arfer Effeithiol |

Meithrin cysylltiadau â chynghorau ysgolion a cholegau

Share this page

Ystod oedran
11-18
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awdurdod lleol yn ne Cymru a chanddi gyfanswm poblogaeth o 144,288.  Mae’r sir yng nghanol de Cymru, yn ymestyn 20 cilomedr o’r dwyrain i’r gorllewin ac mae’n cynnwys cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr.  Mae’r awdurdod lleol yn cynnal naw ysgol uwchradd, 48 o ysgolion cynradd (gan gynnwys dwy ysgol fabanod ac un ysgol iau), dwy ysgol arbennig ac uned cyfeirio disgyblion. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r awdurdod lleol yn rhoi pwyslais sylweddol ar bwysigrwydd ymgynghori â phobl ifanc a rhoi ystyriaeth dda i’w safbwyntiau a’u barn.  Caiff eu gwaith ei ategu gan strategaeth gyfranogi effeithiol.

Ym mis Ebrill 2017, penodwyd Gweithiwr Hawliau Plant a Chyfranogi dynodedig gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd.  Prif ffocws y rôl yw datblygu cysylltiadau cryfach rhwng Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a’r cynghorau ysgol a choleg priodol.  Yn sgil llwyddiant y rôl hon, mae’r awdurdod lleol yn cynnal ymgyrch recriwtio am Weithiwr Hawliau a Chyfranogiad Plant dynodedig ychwanegol i ehangu’r gwaith cadarnhaol a gwblhawyd hyd yma, ac adeiladu arno.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ar draws yr awdurdod lleol, mae plant a phobl ifanc yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn at ddylanwadu ar benderfyniadau am y gwasanaethau sy’n effeithio arnyn nhw.  Mae’r pwyslais yn ymestyn y tu hwnt i ymgynghori i’w cynnwys o ddifrif yn y broses gwneud penderfyniadau a rhoi adborth ar y modd y mae eu cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth.  Mae pob un o’r adrannau isod yn dangos enghreifftiau o’r ystod o weithgareddau sy’n helpu gwneud y strategaeth hon yn llwyddiannus.

Mae’r ‘Rhwydwaith Cyfranogi’ ar draws yr awdurdod lleol, sy’n cynnwys y cyngor ieuenctid, yn ethol maer ieuenctid bob blwyddyn.  Caiff grwpiau arbenigol eu sefydlu i weithredu hawliau a chyfranogiad plant ar draws gwasanaethau pobl ifanc.  Mae’r broses hon yn ymwneud â chynnwys plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, sydd ar yr ymylon ac wedi ymddieithrio ar draws yr awdurdod lleol.  Mae gan y rhain rôl weithredol yn y prosesau gwneud penderfyniadau a chyfranogi trwy gyfarfodydd rheolaidd, ac maent yn gweithio’n dda gyda Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae pobl ifanc ym mhob ysgol a choleg yn rhoi adborth i gynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid ar eu blaenoriaethau, er enghraifft cyfleoedd cynyddol i gymryd rhan mewn clybiau a gweithgareddau allgyrsiol, a chodi mwy o ymwybyddiaeth amdanynt. 

Yn ystod yr adolygiad diweddar o addysg ôl-16, bu disgyblion o bob cyngor ysgol uwchradd yn cymryd rhan mewn gweithdai i roi eu safbwyntiau ar yr ‘uchelgeisiau ar gyfer addysg 16 i 18 ar draws Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr’.  Lansiwyd arolwg manwl i sefydlu safbwyntiau dysgwyr am ddarpariaeth bresennol 16 i 18 oed hefyd, ac ymatebodd dros 1,500 o ddysgwyr 16 i 18 oed.  Roedd y lefel hon o ymateb yn eithriadol o fuddiol i’r bwrdd adolygu o ran cefnogi eu safbwyntiau am effeithiau tebygol y cysyniadau a oedd yn cael eu hystyried.

Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn cynnal ‘Gŵyl Ddysgu’ flynyddol, ac mae llais y dysgwr yn ganolog i’r digwyddiad hwn.  Cynhelir Diwrnod ‘Dysgwyr’ - Fforwm Llais y Dysgwr’ fel rhan o’r digwyddiad.  Mae hyn yn cynnwys tua 100 o ddysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau sy’n hyrwyddo cyfranogi ac yn sbarduno trafodaethau wedi eu harwain gan ddysgwyr.  Er enghraifft, yn 2018, bu cynrychiolwyr o bob cyngor ysgol yn ystyried ‘Beth sy’n gwneud plant yn hapus yn yr ysgol?’ cyn y diwrnod, a chofnodwyd eu hymatebion clwstwr mewn ffilm fer.  Fel rhan o’r ffocws ar les yn y digwyddiad, gofynnwyd i’r clystyrau o gynghorau ysgol ystyried beth fydd ‘yn eu gwneud yn hapusach yn eu hysgol a’u cymuned’.  Cofnodwyd safbwyntiau’r dysgwyr (a’r athrawon) trwy nifer o sesiynau gweithdy hynod ryngweithiol gan y Tîm Datblygu Ieuenctid.  Mae’r safbwyntiau hyn yn helpu llywio’r broses gwneud penderfyniadau o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. 

Mae Gwasanaeth Cynhwysiant yr awdurdod lleol yn adlewyrchu pwysigrwydd dull unigoledig wrth gofnodi safbwyntiau dysgwyr.  Mae timau o fewn y gwasanaeth yn defnyddio strategaethau amrywiol, gan gynnwys: proffiliau un dudalen, dogfennau ‘Amdanaf i’ (‘All About Me’) a ‘Fy Ngweledigaeth’ (‘My Vision’) i hwyluso adolygiadau wedi eu harwain gan ddisgyblion a chyfweliadau wyneb yn wyneb, a thrafod graddfeydd hyder a holiaduron disgyblion.  Rhennir yr arfer dda hon ag ysgolion trwy hyfforddiant, ymgynghoriadau â disgyblion unigol, grwpiau a dosbarth cyfan a modelau rôl yn ystod cyfarfodydd adolygu. 

Cymerodd Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yr awenau ar ran yr awdurdod lleol o ran mynd i’r afael â ‘thlodi mislif’ trwy ei ysgolion.  Ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-2018, defnyddiodd yr awdurdod lleol grant Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn darparu cynhyrchion mislif sydd ar gael am ddim, offer mislif a newidiadau angenrheidiol i doiledau mewn ysgolion.  Rhoddodd aelodau o’r Cyngor Ieuenctid eu safbwyntiau ar sut dylai’r awdurdod lleol ddefnyddio’r cyllid i wneud y gorau o botensial y dyraniad.  Fe wnaethant ddatblygu holiadur byr i’w lenwi gan ddisgyblion i nodi arfer bresennol mewn ysgolion, eu profiadau o’r rhain a’r dull y maent yn ei ffafrio ar gyfer manteisio ar y cynhyrchion.  Ymgynghorodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid ag uwch arweinwyr mewn ysgolion i nodi p’un a oedd angen unrhyw hyfforddiant ar gyfer staff, a’r newidiadau a oedd yn angenrheidiol i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn llwyddiannus.

Canfu’r ymgynghoriadau hyn fod yn well gan bobl ifanc gael gafael ar gynhyrchion gan aelod o staff.  Mae hyn yn galluogi iddynt gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, yn ogystal â chyflenwad o gynhyrchion.  Gyda’r wybodaeth hon, dewisodd y Cyngor Ieuenctid, ynghyd â rhanddeiliaid perthnasol, ganolbwyntio ar greu mwy o ymwybyddiaeth o argaeledd cynhyrchion am ddim mewn ysgolion.  Trwy weithio gyda chwmni dylunio, datblygodd y Cyngor Ieuenctid boster yn addas i bobl ifanc a oedd yn cynnig man gwybodaeth ddisylw i ddisgyblion ynglŷn â sut gallant gael cynhyrchion.  Rhoesant bosteri ar gefn pob drws ciwbicl mewn toiledau perthnasol ym mhob ysgol uwchradd a chynradd.  Roedd hwn yn gynllun uchelgeisiol a oedd yn cynnwys dros 600 o doiledau.  Bu gweithiwr hawliau a chyfranogiad plant yr awdurdod lleol yn cefnogi gwaith y Cyngor Ieuenctid ac yn cysylltu â’r adrannau perthnasol yn y cyngor i sicrhau bod y syniad yn cael ei wireddu.  

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Y prif ysgogwr ar gyfer y grant ‘tlodi mislif’ oedd galluogi pobl ifanc a allai fod wedi colli’r ysgol fel arall i ddefnyddio cynhyrchion i sicrhau bod eu presenoldeb ddim yn cael ei effeithio o hyd.  Trwy ymgysylltu â phobl ifanc trwy’r cyngor ieuenctid a’r cyngor ysgol, sicrhawyd bod y cyngor yn y sefyllfa orau i bennu’r mecanweithiau mwyaf priodol i gyrraedd disgyblion sydd wedi eu heffeithio.

Yn fwy cyffredinol, mae strategaeth llais y dysgwr yn hynod effeithiol o ran cyflawni dau o’r pedwar diben craidd yn y cwricwlwm i Gymru trwy helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n:

  • ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Mae ymglymiad gweithredol yn helpu’r plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu cynnwys i ddeall sut gellir clywed eu cyfraniadau trwy’r prosesau democrataidd.  Mae’r gwaith hwn yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr at iechyd a lles pobl ifanc, ac yn darparu cyfleoedd pwrpasol i ddatblygu medrau llythrennedd. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mabwysiadwyd y posteri ‘tlodi mislif’ a deunydd cysylltiedig yn lleoliadau preswyl a chymunedau ehangach yr awdurdod lleol.  Caiff y rhain eu dosbarthu trwy bartneriaethau â banciau bwyd lleol, hybiau cymunedol a grwpiau lleol eraill.

Rhannwyd arfer dda â’r holl ysgolion yn yr awdurdod lleol trwy’r cynghorau ysgol a gydag awdurdodau lleol eraill trwy wahodd swyddogion i’r digwyddiadau hyn.

Rhannwyd Yr Ŵyl Ddysgu gydag ymarferwyr addysg uwch hefyd trwy Gynhadledd y Rhwydwaith Ymchwil Weithredu (CARN) ym Manceinion (Hydref 2018).

Rhannwyd enghreifftiau eraill sy’n dangos arfer dda o ran llais y dysgwr gydag ysgolion, Consortiwm Canolbarth y De a rhanddeiliaid eraill.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Cymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i ysgolion ac UCDau i ymateb i COVID-19

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig cynnig trosolwg o’r ffordd y mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi gweithio gydag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) i hyrwyddo dysgu a chefno ...Read more