Arfer Effeithiol |

Mae gan lais y disgybl ran bwysig mewn cynllunio cwricwlwm creadigol a chyffrous

Share this page

Nifer y disgyblion
63
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr Ysgol

Lleolir Ysgol Casmael ar gyrion pentref Casmael a chaiff ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Benfro. Mae 59 disgybl rhwng 4 ac 11 oed ar y gofrestr.  Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.

Tros dreigl tair blynedd, mae tua 8% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn sylweddol is na’r ganran genedlaethol, sy’n 18%.  Mae 5% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae’r ysgol wedi adnabod tua 30% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sydd yn sylweddol uwch na’r ganran genedlaethol, sy’n 21%.

Mae Ysgol Casmael yn ysgol wledig naturiol ddwyieithog.  Codwyd yr adeilad presennol yn 1953 mewn safle hyfryd gyda golygfeydd panoramig o fynyddoedd y Preseli.  Mae’r ysgol yn enwog am hyrwyddo ‘Cymreictod’ yn ei disgyblion, yn ddiwylliannol ac ieithyddol, boed y rhieni’n siarad yr iaith ai peidio.  Mae ysgol Casmael ynghanol y gymuned, ‘ysgol bentref’ yng ngwir ystyr y gair.  Mae’r ysgol â dalgylch cymharol eang gyda disgyblion yn teithio o ardaloedd gyfagos.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Trwy gydweithio gydag Arweinydd Dysgu’r clwstwr o ysgolion lleol, gwelwyd cyfle i fanteisio ar ddyfodiad y cwricwlwm newydd a’r datblygiadau diweddar ym myd addysg.  Datblygwyd cyfleoedd i athrawon a’r disgyblion feddwl mewn ffyrdd chwilfrydig wrth gynllunio gweithgareddau a heriau dysgu cyffrous a chyfoethog.

Cyn Medi 2018, roedd yr ysgol yn cynllunio’r cwricwlwm o amgylch cylch o themâu trawsgwricwlaidd.  Yn aml, roeddynt yn dewis teitl newydd i’r thema er mwyn cadw syniadau’r disgyblion, a’r staff yn gyfredol a herthnasol.  Roedd pob thema yn canolbwyntio ar bwnc neu bynciau ag ystod o sgiliau posib i’r disgyblion feistroli.  Trwy ddilyn y themâu, roedd modd i’r ysgol sicrhau eu bod yn cwrdd â’r sgiliau cwricwlaidd dros gyfnod o amser.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ym Medi 2018, dechreuodd blwyddyn ysgol newydd, a’r tymor, heb thema.  Sawl gwaith dros gyfnod o wythnos daeth staff a disgyblion yr ysgol at ei gilydd er mwyn tasgu syniadau.  Canolbwyntia’r sesiynau hyn ar ddarganfod beth hoffai’r disgyblion ddewis fel themâu, beth oedd yn eu diddori, a pha fath o bethau hoffant gynnwys yn eu cwricwlwm newydd.  Treuliodd y staff amser yn dosbarthu’r syniadau i bedwar ymbarél, roedd tri ohonynt yn ffurfio syniadau cyffrous am themâu newydd, un ar gyfer pob tymor.  Dewiswyd un ymbarél fel man cychwyn ac, ar ôl rhestri’r cynnwys, daeth un disgybl â’r syniad o “Dewch i ddathlu.”

Yn dilyn y sesiwn hynny, cynhaliwyd sesiwn arall er mwyn i bawb gael y cyfle i gyfrannu tuag at y thema newydd.  Aeth y disgyblion ati i feddwl am dasgau a heriau dan y chwe maes dysgu y cwricwlwm newydd i Gymru.  Ers hynny, mae’r ysgol wedi ymestyn y cyfle i rieni gyfrannu syniadau tuag at y thema hefyd.

Yn dilyn ymweliad ag Ysgol Glan Usk, penderfynodd y staff ddefnyddio’r syniad o gwricwlwm “FFLACH” (Ffurfio llwybr i Addysgu Chwilfrydig ag Holistig).  Roedd hynny’n golygu newid y ffordd o ddysgu yn ystod y sesiwn prynhawn er mwyn cyflwyno disgyblion cyfnod allweddol 2 i’r syniad o dderbyn tasg ffocws gan un o’r athrawon, neu ymgymryd â sesiwn heriau’n annibynnol.

Yn dilyn y sesiwn tasgu syniadau, mae’r athrawon bellach yn dilyn athroniaeth y cyfnod sylfaen ac yn cynllunio ar gyfer eu dosbarthiadau sy’n cynnwys heriau a thasgau ffocws.  Mae’r cynlluniau hyn yn hyblyg.  Er enghraifft er mwyn asesu cynnydd wrth i’r tymor symud yn eu flaen, ac i gwrdd ag anghenion a deinameg y dosbarthiadau, neu i ddelio gyda digwyddiadau pwysig.  Mae pob tymor yn dechrau gyda lansiad i’r thema newydd.  Erbyn diwedd y flwyddyn, mae llawer o’r disgyblion yn nghyfnod allweddol 2 bellach yn cael y cyfle i gynllunio ac i ddysgu gwersi’u hunain i weddill y dosbarth neu i grŵp llai.

Mae’r tasgau ffocws a’r heriau yn cael eu cofnodi mewn llyfrau arbennig, sef ‘Llyfrau FFLACH’.  Llyfrau A3 gyda chlawr caled ydy’r llyfrau arbennig yma, sy’n sbarduno diddordeb y disgyblion.  Yn y cyfnod sylfaen, mae un llyfr FFLACH i gofnodi llwybr dysgu’r dosbarth.  Wrth i’r disgyblion symud i Flwyddyn 3, mae pob disgybl yn derbyn llyfr FFLACH fel llyfr arbennig i gofnodi’r daith dysgu am y flwyddyn addysgiadol sydd i ddod.

Mae cynlluniau ar gyfer pob dosbarth yn cael eu nodi yn fras yn electronig ar gyfer y staff i gyd, fel gallant rannu’r wybodaeth rhyngddyt.   Mae’r staff yn anelu at ddilyn amserlen er mwyn cyflwyno’r ffurfiau ieithyddol a chysyniadau rhifyddol yn ystod y gwersi pob bore.  Lle mae’n bosib, mae’r ffurfiau ieithyddol a’r cysyniadau yma yn cael eu hymarfer mewn tasg ffocws neu fel her ychwanegol.

Mae pedwar diben y cwricwlwm newydd wedi bod yn sail i’r holl waith o gynllunio a datblygu cwricwlwm diwygiedig ar gyfer Ysgol Casmael.  Mae’r athrawon yn sicrhau bod pob tasg a her â ffocws pendant ar un, neu fwy o’r dibenion.  Treuliodd yr athrawon amser dros gyfnod o flwyddyn yn mynd at wraidd pob diben, ac, fel ysgol, cafodd pedwar cymeriad eu creu i gynrychioli beth yw ystyr y pedwar diben i ddisgyblion Ysgol Casmael.  Mae’r gwersi hefyd yn defnyddio’r deuddeg egwyddor pedagogaidd fel gwraidd ar gyfer llywio’r dysgu a’r addysgu, ac er mwyn sicrhau bod y gwersi o’r safon gorau posib.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Ar draws yr ysgol mae llais y disgybl yn nodwedd gref wrth i’r disgyblion gynnig syniadau yn hyderus er mwyn llywio’r ddarpariaeth.  Mae’r ystod eang o brofiadau dysgu cyfoethog, sy’n hanu o syniadau’r disgyblion ac yn seiliedig ar themâu byrlymus, yn llwyddo i gymell bron pob dysgwr i wneud cynnydd uchel yn eu medrau yn gyson.

Wrth ymgymryd â’r tasgau cyffrous, mae’r disgyblion yn teimlo balchder wrth iddynt gynllunio a chyflwyno mewn ffordd greadigol.  Yn deillio o’r hunan asesu a’r asesu cyfoedion sydd yn rhan annatod o’r proses, mae’r heriau sy’n cael eu cynllunio yn ymestyn gallu pob disgybl ac yn eu gwthio i fod yn fwy uchelgeisiol.  Erbyn diwedd cyfnod allweddol 2, mae’r staff yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion datblygu ystod o fedrau yn hyfedr wrth iddynt gynllunio ac arwain yr addysgu a thasgau dysgu ymhlith eu cyfoedion.  Mae hyn yn ffordd bwerus o ddatblygu’r disgyblion fel unigolion uchelgeisiol, hyderus a gwybodus.

Oherwydd y rôl flaenllaw sydd gan y disgyblion mewn penderfynu ar gynnwys eu gweithgareddau dysgu, mae awyrgylch weithgar ym mhob dosbarth, sydd yn ysgogi’r dysgwyr i fod yn gydwybodol ac i ddyfalbarhau.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gydag ysgolion lleol gan rannu arfer dda a syniadau.

Yn dilyn blwyddyn o arbrofi gyda’r dull newydd o weithio, fe rannwyd hanes taith yr ysgol ar ‘Dolen’ er mwyn i ymarferwyr ar draws y consortiwm elw o’r profiadau.  Rannwyd y llyfrau ‘FFLACH’ gydag ysgolion eraill ac mae’r ysgol yn croesawu ymarferwyr i arsylwi yn y dosbarth neu i graffu ar lyfrau’r disgyblion.

Fel Ysgol Arweiniol Greadigol, mae’r ysgol yn rhannu eu profiadau trwy gydweithio gydag ysgol gyfagos.   Noda’r ysgol fod eu ‘llyfr cymunedol i gofio can mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei chreu trwy’r defnydd o grant Cronfa Treftadaeth y Loteri, ar gael yn y llyfrgelloedd lleol er mwyn i bawb mwynhau enghraifft o waith ein dysgwyr creadigol, uchelgeisiol, gwybodus’.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Arfer orau mewn addysgu a dysgu yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2 - Mai 2015

pdf, 513.03 KB Added 01/05/2015

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr chylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. ...Read more