Arfer Effeithiol |

Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg

Share this page

Nifer y disgyblion
1250
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ysgol ddynodedig Gymraeg, sy’n darparu addysg i ddisgyblion o 3 mlwydd oed hyd at 19 mlwydd oed.  Mae ganddi 1,250 o ddisgyblion, 168 disgybl ym Mlynyddoedd 1 – 6 ac 1019 ym Mlynyddoedd 7 – 13.  Mae 147 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.  Mae disgyblion o chwech o ysgolion cynradd eraill y dalgylch yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 7 a lleolir yr ysgol yn nhref y Barri.  Nid yw’r Barri yn ardal traddodiadol Gymraeg.  Daw tua 40% o’r disgyblion o gartrefi ble mai Cymraeg yw iaith yr aelwyd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer

Mae ymdeimlad cryf ymysg disgyblion a staff o falchder yn eu Cymreictod a gwerthfawrogiad o fod yn rhan o gymuned Gymraeg glos a gofalgar.   Mae Cymreictod a disgyblaeth gadarn yn brif flaenoriaethau i’r ysgol.   Mae dyletswydd a chyfrifoldeb clir ar bob aelod o staff i hybu ac annog defnydd o’r Gymraeg ymhob sefyllfa bosib, boed yn yr ysgol neu oddi ar y safle ar daith neu ymweliad.  Caiff athrawon eu hatgoffa mewn sesiynau ar y cyd eu bod i gyd yn athrawon iaith ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fodelau iaith effeithiol sydd yn cywiro iaith y disgyblion mewn modd grefftus yn feunyddiol.  Mae’r weledigaeth hon wedi bod yn un ganolog ers sefydlu’r ysgol a gweithir yn galed i gynnal y safonau a’r disgwyliadau uchel o ran y defnydd o’r Gymraeg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu Cymreictod yn greiddiol i holl waith yr ysgol.  Mae’r ‘Pwyllgor Cymreictod’ yn cael effaith gadarnhaol iawn wrth hybu’r defnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg ar draws yr ysgol.  Yn y cynradd, roedd hyfforddi athletwyr tîm Cymru i ddysgu Cymraeg yn sialens a phrofiad bythgofiadwy i’r disgyblion.   Mae’r ‘Mentoriaid Iaith’ ym mlwyddyn 10 yn gweithio’n agos gyda disgyblion iau i hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg fel ffordd o fyw.  Mae disgyblion hŷn yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri ac yn gweithio fel modelau rôl aeddfed wrth gefnogi disgyblion iau gyda gweithgareddau llythrennedd mewn sesiynau boreol.  Maent hefyd yn cynnal gweithgareddau.  Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fedrau’r disgyblion ar draws yr ysgol ac yn cyfoethogi eu hiaith.   Mae trafod materion iaith a Chymreictod a chynnal safonau hefyd yn ffocws yn y Cyngor Ysgol a’r ‘Cabinet’.

Mae’r ‘Wythnos Gymreictod’ yn hynod o lwyddiannus.  Daw siaradwyr gwadd ac enwogion i’r ysgol i drafod pwysigrwydd yr iaith iddyn nhw.  Mae hyn yn ennyn balchder yn y disgyblion ac yn eu galluogi i weld gwerth a statws i’r iaith.  Ymysg y gweithgareddau mae ‘gigs’ a gynhelir trwy gydweithio gydag asiantaethau fel yr Urdd.   Mae criw o ddisgyblion sy’n cyflwyno ar y Radio Ysgol yn rhoi arlwy o brofiadau ac yn agor llygaid y disgyblion i fywyd Cymreig sydd ddim o fewn eu profiad.   Cynhelir sesiynau ‘seicoleg iaith’ gan athrawon oedd wedi mynychu ysgolion Cymraeg er nad oedden nhw o gartrefi Cymraeg eu hunain.  Gall y disgyblion uniaethu gyda’u cefndiroedd a gweld manteision i’r iaith o fewn y byd gwaith.

Cynigir arlwy arbennig o gyfoethog o brofiadau allgyrsiol trwy amrywiol glybiau, ymweliadau i’r ardal leol a thu hwnt a phrofiadau chwaraeon.  Mae’r profiadau hyn yn dylanwadu’n gadarnhaol ar les, Cymreictod a chymhelliant disgyblion ac yn datblygu eu medrau cymdeithasol yn arbennig o dda.  Ceir amrywiaeth o weithgareddau sy’n datblygu ymwybyddiaeth gadarn o ddiwylliant a hanes Cymru, gan gynnwys astudio chwedlau o fewn y gwersi a thaith flynyddol i ymweld â lleoedd pwysig yn hanes Cymru ar gyfer cyfnod allweddol 4 a drefnir gan yr Adran Gymraeg.  Mae’r Eisteddfodau ysgol a’r Urdd yn ganolbwynt yn y calendr ysgol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae sylwadau gan siaradwyr gwadd ac ymwelwyr i’r ysgol yn hynod o ganmoladwy ynghylch defnydd y disgyblion o’r Gymraeg mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol.  Mae ymweliadau a theithiau yn bleser i athrawon gan fod cymaint o barch gan y disgyblion at yr iaith.  Mae’r ganmoliaeth gan wersylloedd fel Glanllyn a Llangrannog yn gadarnhaol dros ben.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru – astudiaethau achos a chameos gan ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig a gynhelir yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. ...Read more