Er mwyn darparu amgylchedd diogel a therapiwtig ar gyfer yr holl ddysgwyr, mae pob un o’r staff (rheolwyr, athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, gofalwyr) yn cael safon uchel o hyfforddiant ar weithio’n therapiwtig ac yn greadigol gyda phlant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. Fel rhan o hyn, mae dysgwyr yn cydnabod ei bod yn bwysig sicrhau bod hyfforddiant yn arfogi pob aelod o staff yn yr ysgol i allu ymateb yn dosturiol i ddysgwyr pan fyddant yn arddangos ymddygiadau sy’n herio. Ar yr un pryd, maent yn cydnabod bod ganddynt gyfrifoldeb i sicrhau bod hyfforddiant yn hyrwyddo datblygiad lles a gwydnwch emosiynol y staff eu hunain.
I fynd i’r afael â’r anghenion hyn, yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi cyflwyno cwrs yn dwyn y teitl Cwnsela Therapiwtig mewn Addysg (TCiE): Addysgu’r Meddwl a’r Galon. Mae’r cwrs wedi’i deilwra i’r ysgol, ac fe’i cynlluniwyd gan gwnselydd seicotherapiwtig yr ysgol trwy ymgynghori ag uwch arweinwyr. Mae staff yn cwblhau’r cwrs dros gyfnod estynedig o 12 wythnos, am ddiwrnod bob wythnos. Yn ystod y cwrs, mae staff yn archwilio ystod o themâu ac maent wedi eu hyfforddi i ddefnyddio’r celfyddydau a ffurfiau ar gyfathrebu di-eiriau i helpu dysgwyr i allanoli, archwilio a phrosesu eu profiadau yn ddiogel. Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn darparu cwrs 10 sesiwn ar gymorth lleferydd ac iaith yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hyfforddiant teilwredig ar ddiwrnodau HMS a sesiynau cyfnos ar ystod eang iawn o destunau cysylltiedig, gan gynnwys datblygiad plant, theori ymlyniad, ail-rianta therapiwtig, chwarae, iaith a datblygiad gwybyddol, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, deall a chefnogi prosesu synhwyraidd, gwybyddiaeth a dysgu, swyddogaeth weithredol, hyfforddiant emosiynau, lles ar gyfer staff a dysgwyr, a chymorth cyntaf iechyd meddwl.
Mae fframwaith cymorth wedi’i hwyluso gan dîm therapiwtig amlddisgyblaethol yr ysgol yn ategu’r model hyfforddiant. Mae’r tîm, sy’n cynnwys y cwnselydd seicotherapiwtig, seicolegydd addysg, therapydd galwedigaethol, a therapydd lleferydd ac iaith, yn darparu rhaglen strwythuredig o oruchwyliaeth glinigol, cyfarfodydd tîm yn canolbwyntio ar atebion, sesiynau ‘dal i fyny’ a sesiynau adolygu rheolaidd ar gyfer staff i sicrhau bod cymorth a dysgu staff yn gyfredol.