Arfer Effeithiol |

Gweithio gyda phartneriaid allanol i ddatblygu medrau a doniau disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
116
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn canolbwyntio ar ddatblygu meddyliau agored, a chynnig cyfleoedd sy’n galluogi meddwl yn rhydd.  Mae aelodau staff yn ymdrechu i annog cwestiynau a gweld y gwerth mewn gwneud camgymeriadau a mentro.  Eu nod yw sicrhau bod unigolion yn tyfu i fod yn hyderus, yn barchus, yn wydn ac yn ymholgar sy’n meddu ar y medrau i addasu yn unol â’r byd sy’n newid y maent yn byw ynddo.  Mae’r ysgol yn paratoi ei disgyblion i fod yn oedolion mewn byd nad yw’n bodoli eto, byd sydd â chyfres wahanol o reolau, ffiniau gwahanol, cyfleoedd gwahanol a swyddi gwahanol.  I alluogi disgyblion i fynd i mewn i’r byd hwn â’r medrau angenrheidiol, mae angen i’r ysgol feithrin cariad gydol oes am ddysgu yn y disgyblion.

Mae arweinwyr yn teimlo bod angen i ysgolion fod yn lleoedd bywiog ac ysbrydoledig, lle mae athrawon yn fywiog ac ysbrydoledig, ac yn darparu ystod gyfoethog ac amrywiol o brofiadau i ddisgyblion sy’n bellgyrhaeddol a’r tu hwnt i’r hyn y maent wedi’i brofi eisoes.  Er mwyn gwneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn credu bod angen iddynt fanteisio ar fedrau, gwybodaeth ac arbenigedd pobl eraill, gan amlygu disgyblion i fyd newydd, meithrin dyhead ac ysgogi awydd i ddysgu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, mae arweinwyr yn rhoi llawer o werth ar y cyfle i weithio gyda phartneriaid allanol a’r cyfoeth a ddaw yn sgil hyn i’r ysgol i staff a disgyblion.  Maent yn credu, fel ysgol fach, ei bod yn hanfodol iddi feithrin a manteisio ar fedrau’r gymuned ehangach, er mwyn sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn gallu elwa ar ystod eang o gyfleoedd i feithrin, ysbrydoli, cymell a datblygu eu diddordebau a’u doniau.  Mae arweinwyr yn awyddus i gydnabod a gwerthfawrogi unigoliaeth, dychymyg a dawn greadigol ymhlith disgyblion, gan sicrhau bod pob unigolyn yn teimlo y gallant lwyddo a chyflawni mewn nifer o ffyrdd. 

Mae gan yr ysgol gysylltiadau â sawl partner allanol i gyfoethogi profiadau disgyblion ar draws y cwricwlwm.  Un enghraifft yw ei bod ar hyn o bryd yn un o bedair ysgol sy’n gweithio’n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru.  Mae disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yr ysgol wedi cael cyfle i weithio gyda chyfansoddwr i greu alawon.  Daeth y rhain yn gyfeiliant cerddorol i animeiddiadau a grewyd ar y cyd ag animeiddwyr proffesiynol.  Mae’r disgyblion yn gweithio gyda cherddor a chanwr opera bob wythnos i ddatblygu medrau llythrennedd a cherddorol a fydd yn arwain at gyfle i berfformio ar Lwyfan Glanfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.  Mae’r bobl broffesiynol sydd wedi bod yn gweithio, ac yn gweithio, gyda disgyblion Blwyddyn 5 a 6 wedi gallu rhoi cipolwg i’r disgyblion ar fyd gwahanol, ac maent wedi rhoi diben newydd a gwirioneddol bwysig i’r medrau y maent wedi bod yn eu datblygu.  Mae disgyblion wedi bod mewn sefyllfaoedd lle gallent fentro, cydweithio a meddwl yn greadigol i greu canlyniadau gwych.  Mae’r bobl broffesiynol wedi dangos i’r ysgol fanteision ‘gollwng y ffrwyn’ rhyw fymryn, a gwnaethant argraff ar staff o ran yr hyn y gellir ei gyflawni.  Mae staff wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol, ac o ganlyniad, maent wedi cael eu hannog i fod yn fwy myfyriol wrth ystyried y ffordd y maent weithiau’n rhoi cyfyngiadau ar gyflawniad trwy gael canlyniad rhagosodedig mewn cof a allai weithiau fod yn rhy benodol ac felly cyfyngu ar gyfle.

Mae staff wedi gweld y daw llwyddiant yn sgil gweithio gyda phartneriaid allanol trwy gyfathrebu clir a rheolaidd, gan ddeall yn llawn beth yw amcanion y prosiect a rolau pob un o’r rhanddeiliaid yn hyn.  Mae parch a chymorth, dibynadwyedd, hyblygrwydd a pharodrwydd i addasu  ar y ddwy ochr hefyd yn hanfodol ar gyfer gwaith partneriaeth effeithiol.  Er mwyn i’r ffactorau allweddol hyn fod yn bresennol, rhaid i bawb flaenoriaethu amser i ddatblygu ar gyfer perthnasoedd a dealltwriaeth broffesiynol.  Rhaid i gynlluniau hylaw a strategol ystyried safbwyntiau pawb dan sylw fel bod gan bawb atebolrwydd a’u bod wedi ymrwymo’n llawn i’w llwyddiant o ganlyniad. 

Yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, mae arweinwyr hefyd yn credu bod angen i gymuned yr ysgol gyfan fod yn ymwybodol o lwyddiant unrhyw fenter y mae’n ei mabwysiadu, yn ei chefnogi ac yn dathlu ei llwyddiant.  Trwy’r cyfathrebu a’r ddealltwriaeth hon ar y cyd y gall pawb rannu perchnogaeth ac adeiladu llwyddiant gyda’i gilydd.  Mae cymuned yr ysgol gyfan yn cynnwys yr holl staff addysgu a’r staff nad ydynt yn addysgu, disgyblion, llywodraethwyr, rhieni, ac fel cymuned ysgol, y gymuned ehangach trwy gyfarfodydd a chylchlythyrau.  Trwy godi proffil prosiect fel hyn, mae arweinwyr wedi gweld eu bod hefyd yn cynyddu’r gwerth y mae pawb yn ei roi iddo.  Mae’n bwysig fod yr holl randdeiliaid yn gwybod beth mae arweinwyr yn ei wneud a pham maent yn ei wneud fel bod ganddynt lais mewn llunio ffurfio esblygiad yr ysgol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Ar ôl nodi bod llafaredd yn faes i’w ddatblygu yng nghynllun gwella’r ysgol, ymatebodd yr ysgol yn greadigol trwy weithio mewn partneriaeth ag Opera Cenedlaethol Cymru, animeiddwyr proffesiynol a chyfansoddwr.  Mae cyfathrebu a chynllunio clir o fewn y partneriaethau hyn wedi arwain at godi safonau mewn llafaredd, hyder disgyblion, gwydnwch, lles a dyhead.  Mae pum disgybl wedi cael bwrsarïau i fynychu Opera Cenedlaethol Cymru, gan ymestyn ystod eu cyfleoedd, eu profiadau a’u medrau bywyd yn sylweddol.  O ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus hon, mae’r ysgol wedi llwyddo i fod yn ysgol greadigol arweiniol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannodd yr ysgol yr arfer dda hon gydag ysgolion eraill ar draws yr awdurdod lleol fel rhan o ddathlu gweledigaeth Caerdydd 2020, o fewn y Grant Gwella Ysgolion a gyda’i hysgol fraenaru bartner.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol