Arfer Effeithiol

Dull arloesol i gefnogi disgyblion o deuluoedd Galwedigaethol sy’n teithio

Share this page

Cyd-destun

Mae pedwar o ddisgyblion o deuluoedd Teithwyr Galwedigaethol yn Ysgol Gyfun Penyrheol yn Abertawe. Mae gan y teuluoedd hyn rieni sy’n gweithio mewn ffeiriau ar hyd a lled y wlad, yn ystod tymor yr haf o tua mis Ebrill hyd at hanner tymor yr Hydref. Gan fod y plant yn teithio ac yn gweithio gyda’u rhieni, maent yn colli llawer iawn o ysgol. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar eu cyrhaeddiad academaidd a’u gallu i ailintegreiddio ym mywyd yr ysgol ar ôl rhai misoedd o absenoldeb. I helpu lleddfu’r broblem hon, aeth yr ysgol ati, ar y cyd â gwasanaeth addysg teithwyr Abertawe, i gynnal prosiect peilot y llynedd gyda disgybl Blwyddyn 7.

Strategaeth

Fe wnaeth yr ysgol ystyried nifer o ffyrdd i allu cynnal cyswllt agosach â’r disgybl pan oedd ei deulu’n teithio. Trafodwyd posibiliadau gyda’i rieni cyn cytuno ar strategaeth derfynol.

Gweithredu

Darparwyd gliniadur i’r disgybl i fynd gydag ef pan oedd ei deulu allan o’r ardal, a chytunodd ei rieni i brynu dyfais i ddarparu mynediad rhyngrwyd Wi-Fi iddo. Bu’r cynorthwyydd bugeiliol Blwyddyn 7 yn cadw cysylltiad â’r bachgen a’i deulu yn gyson drwy e-bost, ac fe sicrhaodd bod gwaith ym mhob un o’r pynciau yn cael ei anfon ato’n electronig, gyda therfynau amser ar gyfer dychwelyd y gwaith. Gweithiodd y system hon yn effeithiol iawn.

Deilliant

Roedd y disgybl hefyd yn gallu cadw mewn cysylltiad electronig rheolaidd â’i ffrindiau o’r ysgol a’i diwtor dosbarth, ac roedd hyn yn amhrisiadwy o ran helpu’r bachgen i ddychwelyd yn ddidrafferth i’r ysgol ar ôl cyfnod hir o absenoldeb. Fe wnaeth hefyd alluogi rhywfaint o barhad yn yr addysg. Yn sgil effaith lwyddiannus y prosiect peilot hwn ar gyflawniad academaidd y disgybl a’i fedrau cymdeithasol, mae’r ysgol yn bwriadu trefnu darpariaeth debyg ar gyfer pob un o’i disgyblion eraill o deuluoedd Teithwyr Galwedigaethol pan fydd gwaith yn mynd â nhw i ffwrdd o’r ardal yn haf 2011.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Ymagweddau effeithiol wrth asesu sy'n gwella addysgu a dysgu

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith i Estyn ar gyfer 2021-2022. ...Read more
Adroddiad thematig |

Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru – astudiaethau achos a chameos gan ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig a gynhelir yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. ...Read more