Arfer Effeithiol |

Defnyddio’r awyr agored i ddatblygu medrau bywyd pwysig

Share this page

Nifer y disgyblion
217
Ystod oedran
9-18
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Coleg Myddelton yn ysgol breswyl a dydd gyd-addysgol annibynnol ar gyfer disgyblion rhwng 7 ac 18 oed, sydd wedi’i lleoli yn Ninbych, Gogledd Cymru.  Sefydlwyd yr ysgol ym mis Medi 2016 ac fe’i gweinyddir gan IQ Education Limited, sef cwmni sydd ag ysgol arall yn Lloegr, a chysylltiadau â sawl ysgol yn Tsieina.  Mae 215 o ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae’r rhain yn cynnwys 34 o ddisgyblion yn yr adran gynradd, a 179 o ddisgyblion yn yr adran uwchradd, yn cynnwys 43 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.  Mae tua 68% o ddisgyblion yn ddisgyblion dydd sy’n byw yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Gonwy ac mae tua 32% ohonynt yn ddisgyblion rhyngwladol sy’n dod o 16 o wledydd gwahanol.  Daw bron i 23% o ddisgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol.  Mae tua 32% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith, neu i safon gyfatebol.  Nid nod yr ysgol yw gwneud disgyblion yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond mae’n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 astudio Cymraeg ail iaith.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r ysgol yn cynnig cymorth dysgu ychwanegol i ychydig iawn o ddisgyblion, yn bennaf i gynorthwyo eu datblygiad o ran llythrennedd, neu anawsterau dysgu cyffredinol.  Mae’r ysgol yn disgrifio bod ei hethos yn seiliedig ar ‘ddysgu yn yr 21ain ganrif’ a ‘thri philer, sef gwydnwch, ysgolheictod a chymrodoriaeth’.  Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu’r unigolyn cyfan ‘i fod yn ddysgwyr annibynnol yn yr economi fodern sydd wedi’i globaleiddio’.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nod Coleg Myddelton yw sicrhau bod disgyblion yn gadael addysg gyda diddordeb gydol oes mewn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol er budd eu hiechyd a’u lles.  Pan agorwyd y coleg, roedd arno eisiau annog disgyblion i ddatblygu eu galluoedd trwy feithrin meddylfryd twf trwy eu helpu i ddeall bod gwaith caled, strategaethau effeithiol a mewnbwn gan bobl eraill yn gallu eu helpu i wella.  I gyflawni’r nod hwn, creodd cyfarwyddwr chwaraeon a dysgu yn yr awyr agored y coleg raglen arloesol, sef ‘Dysgu Trwy’r Awyr Agored’ (‘Learning Through the Outdoors’), gan ddefnyddio lleoliad naturiol Gogledd Cymru ac ardal gyfagos Eryri fel amgylchedd dysgu difyr. 

Mae’r rhaglen wedi’i seilio ar ymagwedd Hahnaidd at addysg gyfannol, sy’n gyson ag ethos y coleg ac yn defnyddio ymagwedd ag iddi sawl cam.  Mae’r strategaeth a’r camau yn dechrau â llunio’r profiad dysgu i sicrhau bod disgyblion yn deall yr hyn y maent yn ymdrechu i’w gyflawni tra’n dysgu trwy’r awyr agored, yn hytrach na chymryd rhan mewn gweithgaredd yn unig.  Mae’r ymagwedd hon yn cynnwys ‘medrau dysgu’r 21ain ganrif’, sef hunanreoleiddio, trwy ofalu am eich lles corfforol a meddyliol a rheoli’ch emosiynau eich hun.  Mae’r ysgol yn arsylwi pryder disgyblion yn y cam hwn o’r broses, fel ofni na allant gyflawni’r dasg a osodwyd, na chaiff ei osgoi na’i anwybyddu, gan ei bod yn hanfodol myfyrio ar hyn yng nghamau olaf y gweithgaredd.

Mae’r ail ran yn ymwneud â chymryd rhan, derbyn yr her, gweithio gyda phobl eraill a dal ati, ni waeth beth fo’r tywydd ar y mynydd.  Mae athrawon yn hwyluso’r profiad dysgu trwy weithio gyda dynameg y grŵp a herio unigolion ar sail eu datblygiad eu hunain trwy elfennau fel arweinyddiaeth a datrys problemau.  Yn gyffredinol, cynhelir y trydydd cam yn ôl yn yr ysgol.  Mae’n hanfodol i’r broses fod athrawon yn hwyluso’r adolygiad: beth ddigwyddodd, beth wnaed yn dda, beth fyddai’n cael ei wneud yn wahanol y tro nesaf, pwy fu’n cynorthwyo, a pha mor effeithiol oedd hyn.  Y rhan allweddol yw’r cam terfynol - trosglwyddo - sut gellir gwneud hyn yn berthnasol y tu hwnt i’r awyr agored?  A yw’r deilliannau dysgu hyn yn berthnasol i’r cartref, yr ysgol a’r dyfodol?  Os nad oeddech yn meddwl y byddech chi’n gallu ei wneud, ond eich bod wedi llwyddo, beth mae hyn yn ei ddweud wrthych am bethau eraill na allwch chi eu gwneud, yn eich barn chi?  Mae’r mathau hyn o gwestiynau yn meithrin hunanhyder, hunan-gred a gwydnwch.  Heb hyn, gweithgareddau yn unig fyddai cyfranogi, ac ni fyddai’n dod â’r gwerth llawn, gwir ar gyfer datblygiad pobl ifanc.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae disgyblion yn cymryd rhan yn y rhaglen dysgu trwy’r awyr agored am ddiwrnod cyfan bob yn ail wythnos fel rhan o amserlen y cwricwlwm.  Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol mewn grŵp o fewn amgylchedd awyr agored heriol.  Mae gweithgareddau enghreifftiol yn cynnwys cerdded ar fynyddoedd a mordwyo, medrau alldaith, dringo ac abseilio, byw yn y gwyllt a chwaraeon dŵr.  Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau’n eilradd i’r prif amcanion ym mhedair prif elfen y rhaglen, sef:

  • Datblygu medrau
  • Dysgu trawsgwricwlaidd
  • Datblygiad personol a chymdeithasol
  • Creu atgofion

Mae gan ddisgyblion eu cofnod cynnydd eu hunain, sy’n canolbwyntio ar bob un o’r elfennau uchod, a lle maent yn cofnodi ac yn monitro eu datblygiad yn unigol, ac yn ei hanfod, yn personoli eu nodau ar gyfer eu sesiwn nesaf.

Yr hyn sy’n ganolog i’r rhaglen yw bod pob sesiwn a phob grŵp blwyddyn yn gwneud cynnydd ac yn darparu ar gyfer y broses Hahnaidd, sef camau ‘Hyfforddiant, Prif a Therfynol’ i’w hymgorffori mewn safbwyntiau micro (unigol) a macro (ysgol gyfan) o’r adran gynradd trwodd i’r chweched dosbarth.  ‘Hyfforddiant’ yw pan fydd yr ysgol yn addysgu’r medrau sydd eu hangen ar ddisgyblion i fod yn unigolion hyderus a llwyddiannus. ‘Prif’ yw ble mae’r ysgol yn eu cynorthwyo i ymarfer a datblygu’r rhain ymhellach o fewn grŵp, a ‘Terfynol’ yw ble maent yn gwneud defnydd llawn o’r rhain gyda mewnbwn cyfyngedig gan athrawon. 

Mae’r holl ddisgyblion yn dysgu am gymorth cyntaf, ac yn cael hyfforddiant CPR fel rhan o’r rhaglen.  Yn yr adran gynradd, mae disgyblion yn gweithio tuag at y Dyfarniad Cenedlaethol Dysgu yn yr Awyr Agored, gan ddysgu sut i gynnau tân, defnyddio cyllyll, gwneud bara ac adeiladu llochesau.  Mae Blynyddoedd 7 i 9 yn cymryd rhan yng Ngwobr John Muir, gan ganolbwyntio ar gadwraeth ac anturio.  Mae ymgysylltu yn yr awyr agored yn helpu gwarchod yr amgylcheddau hyn ar gyfer y dyfodol, trwy berchnogaeth disgyblion a chysylltiad â natur.  Mae disgyblion o Flwyddyn 9 ymlaen yn cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin, yn dysgu mordwyo, celfyddyd gwersylla, gan wneud penderfyniadau fel rhan o dîm bach, ac arwain mewn sefyllfaoedd heriol. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn mwynhau dysgu ac yn awyddus i ddysgu trwy’r rhaglen dysgu yn yr awyr agored.  Yn ystod y rhaglen, maent yn datblygu medrau bywyd pwysig fel gwydnwch cryf a medrau personol a chymdeithasol buddiol, gan gynnwys cryfhau eu medrau trefnu, amseru a gwaith tîm yn llwyddiannus. 

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cydnabod y gall sawl gweithgaredd eu gwthio y tu allan i’w mannau cysurus ac maent yn dysgu sut i reoli eu hofn a’u disgwyliadau’n dda.  Mae disgyblion sy’n cael yr anawsterau mwyaf yn yr ystafell ddosbarth draddodiadol yn tueddu i fwynhau’r sesiwn heriol yn yr awyr agored yn fawr, ac maent yn magu hyder fel eu bod yn meithrin agwedd fwy cadarnhaol at ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Trwy’r gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored, mae disgyblion yn datblygu’r gallu i farnu a gwneud asesiad yn rhan o’u bywyd bob dydd.  Maent yn dysgu sut i adnabod peryglon, beth yw’r perygl, a beth y gellir ei wneud i leihau’r risg.  Mae’r medrau trosglwyddadwy hyn yn helpu disgyblion i fentro mewn modd mwy rheoledig yn eu dysgu eu hunain mewn gwahanol gyd-destunau.   

Mae’r holl weithgareddau yn rhai cyd-addysgol, sy’n ffurfio agwedd tuag at gydraddoldeb a chynhwysiant, a ddangosir mewn lefelau cyfranogiad ac adborth gan rieni am yr anturiaethau y mae eu plentyn wedi cymryd rhan ynddynt y tu allan i’r ysgol.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol