Arfer Effeithiol |

Defnyddio sefyllfaoedd go iawn i ddatblygu medrau plant

Share this page

 
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Lleoliad cyfrwng Cymraeg yw Cylch Meithrin Crymych.  Mae’n cwrdd mewn caban hunangynhaliol ar safle Ysgol Y Frenni, ym mhentref Crymych, yn awdurdod lleol Sir Benfro.  Mae’r lleoliad yn darparu addysg am bum bore’r wythnos, rhwng 9.00 y bore a 11.30 y bore yn ystod tymhorau’r ysgol.

Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru i gymryd hyd at 18 plentyn ar unrhyw adeg benodol ac yn derbyn plant rhwng dwy a hanner a phedair blwydd oed.  Yn ystod yr arolygiad, roedd pedwar o’r plant tair blwydd oed yn cael eu hariannu ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar.

Mae bron pob un o’r plant yn dod o gefndir gwyn Prydeinig ac mae tua hanner yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith.  Ar hyn o bryd, nid oes un plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r lleoliad yn cyflogi tri ymarferydd cymwysedig gan gynnwys yr arweinydd.  Dechreuodd yr arweinydd yn ei swydd ym mis Hydref 2006.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector 

Mae ethos croesawgar Cylch Meithrin Crymych yn ysgogi ymdeimlad cryf o berthyn ymhlith y plant.  Cryfder y lleoliad yw’r modd y maent yn creu cysylltiadau agos ag amrywiol bartneriaid yn yr ardal leol.  Mae hyn yn sicrhau bod gan y plant ddealltwriaeth gadarn eu bod yn perthyn i gymuned ehangach yn ogystal â chymuned y lleoliad.  Mae’r arfer orau yn amlygu sut mae’r lleoliad yn cynnal perthynas agos â’r gymuned i gynnig darpariaeth ddifyr ac ysgogol i ddatblygu medrau llafaredd y plant yn ogystal â hybu eu sgiliau cymdeithasol ac i hyrwyddo Cymreictod.  Mae hyn yn cael effaith ardderchog ar les y plant. Caiff y plant gyfleoedd cyson i fynd allan i’r gymuned a chroesawir aelodau o’r gymuned i’r lleoliad yn rheolaidd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae Cylch Meithrin Crymych yn manteisio ar bob cyfle i gydweithio â’r gymuned leol.  Mae meithrin y berthynas hon yn greiddiol i waith cynllunio’r ymarferwyr.  Mae ymarferwyr yn cynllunio’n werthfawr i ymweld yn gyson â siopau’r pentref, er enghraifft siop y pentref, y becws, y cigydd, siop bwydydd iach, siop drydanol a’r caffi.  Caiff y plant gyfleoedd i ofyn am bethau a’u prynu.  Mae hyn hefyd yn datblygu eu medrau llafaredd a’u hymwybyddiaeth o ddefnyddio arian i bwrpas go iawn yn fuddiol.  O dro i dro, cynhelir sesiynau yn ymweld ag un lle penodol yn unig.  Er enghraifft, fe drefnodd yr ymarferwyr ymweliad â’r becws lle bu’r plant yn dysgu am y gwaith a wneir yno yn ogystal â phrofi cynnyrch a phobi ac addurno cacennau i fynd adref gyda hwy.  Mae’r ymarferwyr yn manteisio ar y cyfle euraidd hwn i ddangos i’r plant bod llawer iawn o nwyddau a gwasanaethau ar gael yn lleol, a sut mae prynu’n lleol yn hybu cynaliadwyedd ac yn fanteisiol i’w hamgylchfyd.

Mae’r lleoliad yn ymweld â gwasanaethau a busnesau lleol eraill fel yr orsaf dân, yr ymatebydd cyntaf, yr heddlu a’r ganolfan iechyd yn rheolaidd.  Agwedd nodedig yw’r modd y mae’r lleoliad yn ymweld â phobl sydd â chysylltiadau â’r lleoliad mewn cyfnod o salwch.  Mae hyn yn datblygu empathi ymysg y plant yn dda iawn.  Cynhelir y gyngerdd Nadolig yng nghapel y pentref yn flynyddol a daw rhieni a’r gymuned ehangach ynghyd i ddathlu gyda’r lleoliad.  Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal cysylltiadau ar yr adeg hon o’r flwyddyn drwy ganu carolau yn y gymuned sydd yn cyfoethogi dealltwriaeth y plant o draddodiadau mewn ffordd hollol perthnasol.

Gwahoddir aelodau o’r gymuned leol i’r lleoliad yn aml.  Enghreifftiau effeithiol o hyn yw cynnal sesiwn stori, canu a chrefft gyda Merched y Wawr a Chlwb Gwawr, gweithdai gydag unigolion o’r Gwasanaeth Tân, ac ymweliad â’r Ddynes Lolipop i drafod diogelwch ar y ffyrdd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r arfer gyson o ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i’r plant allan yn y gymuned yn ennyn brwdfrydedd ymysg y plant yn arbennig o dda. Mae’r gwaith yn ysgogi trafodaethau buddiol sy’n galluogi ymarferwyr i ddatblygu medrau llafaredd y plant yn effeithiol ac yn naturiol.  Cânt gyfleoedd arbennig i ddatblygu eu medrau rhifedd mewn sefyllfaoedd go iawn i ddefnyddio arian i brynu ffrwythau, er enghraifft.  Mae defnydd helaeth o’r gymuned ac ymwelwyr yn gwneud y plant yn ymwybodol eu bod yn perthyn i gymuned ehangach.  Mae hyn yn cyfoethogi eu dealltwriaeth o’u cynefin a’r byd o’u hamgylch yn eithriadol o dda.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhennir arfer dda mewn cyfarfodydd clwstwr a gynhelir yn dymhorol o fewn yr awdurdod.  Gwahoddir ymarferwyr i ymweld â’r lleoliad.