Arfer Effeithiol |

Datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol plant trwy gysylltiadau â’r gymuned

Share this page

Nifer y disgyblion
59
Ystod oedran
0-5
Dyddiad arolygiad

 

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Meithrinfa Ddydd Banana Moon yn lleoliad cyfrwng Saesneg.  Mae’n gweithredu o adeilad a gynlluniwyd yn bwrpasol ym Mracla, yn awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae’r lleoliad ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 7.30am a 6.30pm, am 51 wythnos y flwyddyn.  Mae wedi’i chofrestru i ofalu am hyd at 59 o blant, o 12 wythnos oed i 5 mlwydd oed.  Nid oes un o’r plant yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol nac yn dod o gartref Cymraeg ei iaith.  Ar hyn o bryd, mae ychydig bach iawn o blant yn y lleoliad sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae’n cyflogi dau ymarferwr i ddarparu addysg i blant a ariennir ac mae rheolwr nad yw’n addysgu yn goruchwylio’r lleoliad. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae gan y lleoliad amrywiaeth fuddiol iawn o bartneriaethau sy’n cefnogi datblygiad cyffredinol plant yn dda iawn.  Cryfder penodol a amlygwyd yn ystod yr arolygiad yw gwaith arloesol y lleoliad gyda chartref gofal preswyl lleol.  Mae hyn yn cefnogi gweledigaeth y lleoliad, sef bod yn rhan annatod o’r gymuned, a datblygu ymdeimlad plant o les a’u medrau personol a chymdeithasol yn effeithiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

Mae’r lleoliad wedi trefnu ymweliadau rheolaidd â chartref gofal preswyl gerllaw, ar y cyd â rheolwr y cartref gofal.  Y nod cyffredinol yw hybu lles y plant a’r preswylwyr oedrannus, ynghyd ag ymarferwyr y lleoliad a gweithwyr y cartref gofal.  Yn wreiddiol, aeth ymarferwyr â grŵp bach o chwech o blant i’r cartref gofal preswyl i weld sut byddent yn ymateb.  Roedd yr ymweliadau cyntaf hyn yn llwyddiant mawr.  Roedd ffocws ar gerddoriaeth, darllen llyfrau a chwarae dal.  Roedd eu hoff weithgaredd yn ymwneud â’r parasiwt, gyda’r holl breswylwyr yn cydweithio fel y gallai’r plant redeg o dan y parasiwt.

Yn sgil llwyddiant y treial cychwynnol, sefydlodd y lleoliad ymweliadau wythnosol â’r cartref gofal preswyl.  Erbyn hyn, mae trefniant rheolaidd ar fore Mercher, gyda gwahanol ymarferwyr a phlant y feithrinfa yn cymryd rhan dros gyfnod.  Mae fformat yr ymweliadau wedi datblygu gyda phrofiad ac mae ymarferwyr y lleoliad a’r gweithwyr gofal bellach yn cydweithio os bydd digwyddiad arbennig.  Er enghraifft, ar gyfer yr ‘Wythnos Hwiangerddi’, fe wnaeth gweithwyr gofal a phreswylwyr ymarfer y pum cân a’r hwiangerddi roedd y plant yn eu dysgu a gwnaethant lyfryn yn cynnwys y rhain, yn barod ar gyfer yr ymweliad wythnosol.  Roedd clywed y preswylwyr yn canu gyda nhw wedi rhoi hyder i’r plant, gan eu helpu i gofio’r geiriau ac ychwanegu at eu mwynhad.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ymweliadau â’r cartref gofal preswyl yn datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol y plant yn dda ac yn rhoi hyder iddynt.  Er enghraifft, mae ychydig blant sy’n tueddu i fod yn dawel yn y feithrinfa yn siaradus yn y cartref gofal.  Mae’r preswylwyr yn mwynhau eu sgyrsiau gyda’r plant ac mae ganddynt ddigon o amser i wrando ar eu storïau.  Mae hyn yn helpu i ddatblygu medrau siarad a gwrando’r plant yn dda.  Mae preswylwyr yn awyddus i ryngweithio â’r plant, er enghraifft i ddangos iddynt sut i ddefnyddio teganau maen nhw’n eu cofio o’u plentyndod.  Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ac ystyrlon i blant ymarfer eu medrau cymdeithasol, yn ogystal â datblygu’u dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r lleoliad yn rhannu’r arfer dda hon ar ei thudalen ar y cyfryngau cymdeithasol ac yng nghyfarfodydd rhwydwaith lleol y cyfnod sylfaen.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol