I ddechrau, darparodd y coleg amrywiaeth o weithgareddau ymarferol i ddysgwyr fel rhan o sesiynau ystafell ddosbarth, fel gwneud eu crysau T, eu mygiau a’u cylchau allweddi eu hunain. Mireiniodd y dysgwyr eu medrau i lefel mor dda fel bod ansawdd y nwyddau yn ddigon da i’w gwerthu. O ganlyniad, sefydlodd y dysgwyr fenter fewnol, yn gwerthu nwyddau i staff ac aelodau teulu.
Oherwydd llwyddiant y strategaeth hon, sefydlodd y dysgwyr farchnadfa ar-lein i werthu eu nwyddau i’r cyhoedd, sef ‘Beechwood bits and bobs’. Gwnaeth dysgwyr ymchwil i’r farchnad, gan gyfrifo pa eitemau a werthodd orau ar-lein. Yna, addasont eu hymagwedd at werthiannau, er enghraifft trwy weithio tuag at themâu bob tymor a fyddai’n cyd-fynd â dathliadau fel Dydd San Ffolant, Sul y Mamau a’r Pasg. O fewn pedair wythnos o agor eu siop, roedd gan y dysgwyr adolygiadau 5 seren ac roedden nhw wedi gwerthu’r cyfan o un o’u nwyddau.
Mae dysgwyr yn gyfrifol am bob agwedd ar y siop, o ymchwil i’r farchnad, datblygu’r nwyddau i’r gwasanaeth i gwsmeriaid, a sicrhau bod tâl post cywir ar yr eitemau, trwy bwyso a mesur a phrynu’r eitemau y maent yn eu hanfon. Mae’r holl ddysgwyr yn y coleg yn ymwneud â rhedeg y siop. Mae gan bob un o’r dysgwyr rôl werthfawr yn dibynnu ar eu diddordebau, eu cryfderau a’u galluoedd. Mae rhai ohonynt yn dylunio’r nwyddau, eraill yn pecynnu’r archebion yn barod i’w postio, ac eraill yn cerdded i’r blwch post lleol i bostio’r eitemau.