Datblygu medrau creadigol a medrau gwaith mewn marchnadfa ar-lein
Quick links:
Gwybodaeth am y coleg
Mae Beechwood College yn goleg arbenigol annibynnol ac yn gartref gofal yn Sili, Bro Morgannwg. Mae’r coleg wedi’i berchen gan Beechwood Court Ltd, sy’n rhan o Ludlow Street Healthcare, sydd wedi’i berchen gan Ancala partners.
Mae’r coleg yn cynnig lleoliadau dydd a phreswyl i ddysgwyr 16 oed a hŷn sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ac sydd, o bosibl, ag anghenion sy’n gysylltiedig â chyflyrau’r sbectrwm awtistig. Mae tir y coleg yn cynnwys gardd, twnnel polythen, caffi ac ardal gwaith coed.
Gweledigaeth y coleg yw darparu cyfleoedd a phrofiadau i baratoi dysgwyr ar gyfer eu bywyd yn y dyfodol. Mae’r pennaeth yn arwain tîm o ddarlithwyr a chynorthwywyr cymorth dysgu ac mae’n gyfrifol am ddarparu a chyflwyno’r holl raglenni addysg. Mae tîm arwain strategol y coleg yn cynnwys y pennaeth, y pennaeth cynorthwyol, rheolwr y cartref gofal a’r arweinydd clinigol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae gan yr holl ddysgwyr yn Beechwood College anghenion cymhleth ac mae ar lawer ohonynt angen cymorth i ddatblygu medrau cyfathrebu ac annibyniaeth. Nod arweinwyr y coleg yw darparu amrywiaeth o leoliadau profiad gwaith a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ystyrlon a pherthnasol i ddysgwyr er mwyn datblygu’u hannibyniaeth a pharatoi ar gyfer eu bywyd yn y dyfodol ar ôl y coleg.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
I ddechrau, darparodd y coleg amrywiaeth o weithgareddau ymarferol i ddysgwyr fel rhan o sesiynau ystafell ddosbarth, fel gwneud eu crysau T, eu mygiau a’u cylchau allweddi eu hunain. Mireiniodd y dysgwyr eu medrau i lefel mor dda fel bod ansawdd y nwyddau yn ddigon da i’w gwerthu. O ganlyniad, sefydlodd y dysgwyr fenter fewnol, yn gwerthu nwyddau i staff ac aelodau teulu.
Oherwydd llwyddiant y strategaeth hon, sefydlodd y dysgwyr farchnadfa ar-lein i werthu eu nwyddau i’r cyhoedd, sef ‘Beechwood bits and bobs’. Gwnaeth dysgwyr ymchwil i’r farchnad, gan gyfrifo pa eitemau a werthodd orau ar-lein. Yna, addasont eu hymagwedd at werthiannau, er enghraifft trwy weithio tuag at themâu bob tymor a fyddai’n cyd-fynd â dathliadau fel Dydd San Ffolant, Sul y Mamau a’r Pasg. O fewn pedair wythnos o agor eu siop, roedd gan y dysgwyr adolygiadau 5 seren ac roedden nhw wedi gwerthu’r cyfan o un o’u nwyddau.
Mae dysgwyr yn gyfrifol am bob agwedd ar y siop, o ymchwil i’r farchnad, datblygu’r nwyddau i’r gwasanaeth i gwsmeriaid, a sicrhau bod tâl post cywir ar yr eitemau, trwy bwyso a mesur a phrynu’r eitemau y maent yn eu hanfon. Mae’r holl ddysgwyr yn y coleg yn ymwneud â rhedeg y siop. Mae gan bob un o’r dysgwyr rôl werthfawr yn dibynnu ar eu diddordebau, eu cryfderau a’u galluoedd. Mae rhai ohonynt yn dylunio’r nwyddau, eraill yn pecynnu’r archebion yn barod i’w postio, ac eraill yn cerdded i’r blwch post lleol i bostio’r eitemau.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae ystod y profiadau dysgu sydd ar gael wedi cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu ystod eang o fedrau. Er enghraifft, llythrennedd, rhifedd, medrau digidol, cyfathrebu, hunan-barch, medrau cymdeithasol ac entrepreneuriaeth.
Mae dysgwyr wedi dod i ddefnyddio peiriannau a phrosesau newydd yn fwy medrus, sydd wedi helpu i ddatblygu medrau ar gyfer eu bywyd yn y dyfodol, fel medrau cysylltiedig â gwaith. At hynny, mae gan ddysgwyr fedrau corfforol estynedig, fel medrau echddygol mân ac maent wedi sôn am effaith gadarnhaol ar eu hunan-barch.
Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae’r coleg wedi rhannu ei waith yn y maes hwn gyda cholegau arbenigol eraill, ysgolion arbennig a cholegau AB trwy ei drefniadau gweithio mewn partneriaeth. At hynny, bu’r siop yn arddangos mewn sioe fasnach awtistiaeth ac mae wedi ymddangos mewn cylchgrawn poblogaidd sy’n cael ei ddarllen gan y gymuned awtistig.