Mae addysgu a dysgu effeithiol ar y cyd â chwricwlwm cyfoethog, pwrpasol ac amrywiol yn sicrhau bod gan ddysgwyr ddiddordeb yn eu gwaith, ac yn gweithio’n dda yn annibynnol a gyda chyfoedion i gwblhau eu heriau. Mae hyn yn helpu meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a medrau effeithiol i ddysgu’n annibynnol. Caiff disgyblion gyfleoedd pwrpasol i ymarfer eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol yn dda trwy dasgau a phrofiadau dysgu cyfoethog; fel gwersi coginio a ddefnyddir yn rheolaidd i ymarfer y medrau hyn a hyrwyddo bwyta’n iach.
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer dysgu sylfaen wedi’i seilio ar ystod eang o weithgareddau dysgu a chwarae cyfoethog sy’n datblygu annibyniaeth a medrau cydweithredol disgyblion yn dda.
Mae athrawon yn cynllunio ystod eang o brofiadau dysgu dilys i ddatblygu eu medrau ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys defnydd effeithiol o’r ardaloedd awyr agored. Mae disgyblion yn cyfrannu’n dda at gynllunio testunau bob tymor trwy awgrymu beth maent eisiau ei ddysgu. O ganlyniad, mae’r profiadau dysgu annibynnol neu ‘genadaethau’ yn canolbwyntio’n dda ar alluogi disgyblion i gymhwyso’u medrau mewn cyd-destunau difyr a heriol. Yn ychwanegol, mae disgyblion yn dewis y gweithgaredd ar y lefel her y maent yn ei hystyried yn briodol iddyn nhw, sy’n datblygu eu hannibyniaeth yn llwyddiannus. Caiff disgyblion gyfle hefyd i gynllunio a chyflwyno’u gwersi eu hunain yn unol â’r testun ac ystyried y medrau y dylid eu cymhwyso.
Mae athrawon yn addasu eu haddysgu yn eithriadol o dda i ddiwallu anghenion yr holl ddysgwyr. Gwnânt ddefnydd medrus o weithgareddau byr, sydyn ac ymarferol yn bennaf, sy’n sicrhau bod disgyblion yn aros yn egnïol, yn ymgysylltu trwy gydol y sesiynau ac yn gwneud cynnydd da. Gyda’i gilydd, mae pob un o’r staff yn gosod disgwyliadau uchel, gan wneud defnydd effeithiol o grwpiau a holi i roi’r cymorth angenrheidiol i ddisgyblion i lwyddo a herio’u hunain yn effeithiol.